Mae Tocynnau i'r Maes & Gwyl Triban bellach ar werth!
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng Mai 29 a Mehefin 3 yn nhref Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin.
Diolch i gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru bydd teuluoedd incwm isel yn gallu hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Mae'r cyllid yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy eu Cytundeb Cydweithio. Am ragor o wybodaeth neu i weld os wyt ti'n cymhwyso ar gyfer y tocynnau yma clicia'r bocs sydd isod.