Dysgu Tu Allan i'r Dosbarth
Mae Gwasanaeth Awyr Agored Glan-llyn yn cynnig gweithgareddau awyr agored ar dir yr ysgol neu mewn lleoliadau cyfagos. Mae’r sesiynau yn seiliedig ar y thema "Dysgu Tu Allan i’r Dosbarth” ac yn gyfle gwerthfawr i blant a phobl ifanc ddatblygu sgiliau megis gwaith tîm, gwydnwch a chyfathrebu. Gallwn greu rhaglen sydd wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer anghenion eich ysgol gan wneud defnydd o’r lleoliadau sydd ar gael yn eich ardal. Mae'n bosib i ni weithio efo bob blwyddyn ysgol, a bydd ein gweithgareddau'n cael eu addasu i bob oedran.
Mae’r sesiynau hyn yn seiliedig ar y themâu canlynol:
-Cyfathrebu -Gwaith Tîm -Iechyd a Lles -Gwyllt-grefft
-Cyfeiriannu -Bowldro -Datrys Problemau -Rhifedd a Llythrennedd
Cysylltwch i drafod sut all yr Urdd a’ch ysgol gydweithio i gynnig profiadau newydd i’ch disgyblion.