Rydym yn darparu achrediadau Mountain Training Cymru (Sgiliau bryniau a sgiliau Mynydd) sydd yn amrywio o rai ar gyfer dechreuwyr hyd at rhai sydd gyda mwy o brofiad. Os nad ydych am weithio tuag at achrediad, gall ein hyfforddwyr profiadol arwain eich grwp ar amryw o fynyddoedd.
Hyfforddiant Cymwysterau Mynydda
Rydym yn rhedeg cyrsiau hyfforddiant Arweinydd Tir Isel yn aml trwy'r flwyddyn. Os hoffech gofrestru am unrhyw gyrsiau, plîs ewch i wefan MTA:
www.mountain-training.org/walking/skills-and-awards/lowland-leader
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, plîs cysylltwch â ni
Gweithgareddau Mynydda
Rydym yn gallu darparu diwrnodau neu sesiynau mynydda i oedolion, disgyblion, teuluoedd neu grŵp o ffrindiau. Gallwn deilwra diwrnodau i siwtio chi, yn dibynnu ar ba fath o sgiliau hoffech chi ddysgu neu ddatblygu. Isod welwch enghreifftiau o'r mathau o weithgareddau mynydda gallwn gynnig:
- Sgiliau map a chwmpawd sylfaenol neu arbenigol
- Her tri chopa
- Hanes a chwedlau mynyddoedd Cymru
- Darganfod mynyddoedd Eryri
- Cyflwyniad i sgramblo
- Cerdded trwy'r nos (night nav) ac aros mewn Bothy
- Gwaith rhaff
Nol