Gogledd Cymru - Eryri
Ymunwch ar Alldeithiau Agored Aur sy'n rhedeg yn 2025 yng Ngogledd Cymru. Bydd yr alldeithiau yn cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Bydd y diwrnod hyfforddiant yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill, gan gynnwys staff yr Urdd.
Pris ar gyfer popeth yn dechrau o £405yp, sy'n cynnwys offer*, ffioedd gwersyll a chludiant. Bydd angen i chi trefnu bwyd eich hun ac offer personol.
Edrychwch ar y dyddiadau isod a gofrestrwch i gadw le!
*Offer i fenthyg yn cynnwys: pabell, sach gefn, mat cysgu, stof coginio, map a chwmpawd

Ydych chi wedi cofrestru am Y Wobr Dug Caeredin ond yn ansicr sut neu ble i wneud eich alldeithiau? Ymunwch â ni ar Alldaith Agored efo bobl ifanc eraill i gwblhau eich alldeithiau Dug Caeredin yng nghanol mynyddoedd Cymru!
Cofrestru yma!

De Cymru - Bannau Brycheiniog
Ymunwch ar Alldeithiau Agored Aur sy'n rhedeg yn 2025 yn Nhe Cymru. Bydd yr alldeithiau yn cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd y diwrnod hyfforddiant yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill, gan gynnwys staff yr Urdd.