Alldeithiau Agored Efydd - De Cymru
Cost ar gyfer pecyn llawn Efydd yn dechrau o £175pp, yn dibynnu ar y nifer o gyfranogwyr. Mae'r gost yma'n cynnwys:
- Trafnidiaeth
- Llogi offer*
- Ffi gwersylla
- Hyfforddwyr ac aseswyr gymwys
- Hyfforddiant a goruchwyliaeth dydd a nos
*Offer ar gael: Pabell, sach gefn, mat cysgu, stof coginio, map a chwmpawd
MAE COFRESTRU I ALLDEITHIAU 2025 AR AGOR MIS IONAWR
Nodwch - bydd angen eich rhif edofe i lenwi’r ffurflen ar-lein. Mae rhaid i chi gofrestru gyda Sefydliad Trwyddedig, eg Ysgol neu grŵp ieuenctid, cyn gallu cofrestru ar alldeithiau'r Urdd. Plîs cysylltwch gyda'r Wobr Dug Caeredin os ydych yn ansicr ar sut i wneud hyn.
Plîs sicrhewch eich bod chi'n llenwi a thicio pob bocs ar y ffurflen, yn ogystal â mewnbynnu eich manylion cerdyn, cyn gwasgu 'submit'.
Barod i gofrestru? Cliciwch y botwm gwyrdd uchod i dalu blaendal am le ar ein pecyn Efydd. Gwiriwch y dyddiadau cyn bwcio - mae'n bwysig eich bod chi'n cyflawni pob dyddiad er mwyn llwyddo. Mae'r pecyn yn cynnwys 2 ddiwrnod hyfforddiant ac alldaith 2 ddiwrnod gyda gwersylla.
Ar ôl cofrestru, byddaf mewn cyswllt i rannu mwy o wybodaeth am y diwrnodau hyfforddiant ac alldaith. Bydd hwn yn cynnwys llyfr gwybodaeth Dug Caeredin Efydd, efo gwybodaeth lleoliadau, amseroedd ac offer ar gyfer yr alldaith.
Dyddiad cau i gofrestru ar ein pecyn Efydd yw Mawrth y 1af
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, plîs cysylltwch trwy'r gwefan neu ar e-bost ar emmarichards@urdd.org a byddaf yn hapus i'ch helpu.
I gwblhau'r alldaith Efydd, mae nifer o bethau bydd angen i chi gyflawni:
Rhaid cymryd rhan yn y diwrnodau hyfforddiant, dim ots faint chi'n gwybod yn barod - prif bwrpas yw i ddod i'ch adnabod a rhannu gwybodaeth bwysig yn barod am yr alldaith.
Dilyn Gofynion yr Alldaith sydd wedi'i setio gan y Wobr Dug Caeredin, sy'n cynnwys:
- Cerdded fel grŵp o 4-7 aelod
- Fel grŵp, ysgrifennu cynllun bwyd a cherdyn cerdded i bob diwrnod am yr alldaith!
- Fel grŵp, cyflawni nod penodol dros yr alldaith
- Hunangynhaliol am yr holl amser, a cherdded yw eich ffordd o deithio!
- Gwersylla dros nos