Cymhwyster Gallaf Arwain
Cyflwyniad i arweinyddiaeth a’r sgiliau sydd angen i arwaingweithgareddau sylfaenol o dan oruchwyliaeth uniongyrchol.
Ar ôl cwblhau’r wobr byddwch yn ennill:
Cymhwyster CSLA2
Mae'r cwrs hwn wedi ei gynllunio i ddefnyddio chwaraeon a gweithgaredd corfforol i helpu pobl ifanc i ddatblygu a mireinio eu sgiliau arwain wrth helpu eu hunain aceraill i gadw'n actif. Byddwch yn dysgu ac yn defnyddio sgiliau pwysig megis cyfathrebu a threfnu effeithiol wrth ddysgu i arwain gweithgareddau corfforolsylfaenol i bobl iau, eich cyfoedion, cenedlaethau hyn ac o fewn y gymuned.
Cymhwyster Cynnwys Anabledd y DU
Cyflwyniad i arfer cynhwysol yn chwaraeon, wedi’i anelu at hyfforddwyr ac arweinwyr sy’n ceisio gwneud sesiynau chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn fwy cynhwysol. Yn ymdrin â theori cynhwysiant ac yn cynnwys cyfle i roi’r rhain ar waith gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol i ddangos sut y gall cynhwysiant fod yn rhan o’ch sesiynau.
Yn y gweithdy byddwch yn ymdrin â chanfyddiadau a phrofiadau, arferionhyfforddi da a’r goblygiadau, heriau ac atebion ar gyfer cyfranogiad, llwybrau a dosbarthiad chwaraeon anabledd, a ble i fynd am gymorth ac arweiniad pellach.
Cwrs Arwain Chwaraeon Penodol Lefel 1
Mae pob NGB yn cynnig llwybrau hyfforddi a dyfarnu sydd ar gael ar gyfer unrhywun sydd â diddordeb. Mae'r cyrsiau yn cynnwys elfennau o theori a dysguymarferol. Mae'r cyrsiau wedi eu hanelu at bob lefel felly nid oes angen profiad blaenorol.
Bydd y nifer o oriau gwirfoddol yn amrywio ar gyfer y cyrsiau hyn yn ddibynol ar ychwaraeon.
Cymhwyster Ymwybyddiaeth Awtistiaeth
Cwrs rhagarweiniol ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno deall mwy am awtistiaeth. Mae'n addas ar gyfer unrhyw un sy'n cefnogi plant awtistig, pobl ifanc, ac oedolion. Mae'n trafod beth yw awtistiaeth a'r sbectrwm awtistiaeth ac yn mynd i'r afael arhai o'r camsyniadau cyffredin.
Cwrs Diogelu Plant
Fel hyfforddwr chwaraeon, swyddog, aelod o staff chwaraeon neu wirfoddolwr,mae'n bwysig eich bod chi'n deall eich rôl a'ch cyfrifoldebau wrth amddiffyn y plant rydych chi'n gweithio gyda. Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i gael dealltwriaeth o'ch rôl wrth amddiffyn plant rhag cael eu camdrin neu eu niweidio a pa gamau i gymryd pan fydd pryderon.
Cwrs Cymorth Cyntaf
Bydd y cwrs hyfforddi hwn yn rhoi'r holl sgiliau cymorth cyntaf angenrheidiol i chiddelio gydag ystod eang o ddigwyddiadau chwaraeon.