Faint oed sydd angen bod i wirfoddoli?
Gall unigolion dros 14 mlwydd oed wirfoddoli i'r Urdd ar draws Gymru. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn ôl eich oedran, a byddwn yn cynnig mwy o gyfrifoldebau wrth i'r unigolyn fynd yn hŷn.
Oes angen unrhyw gymwysterau neu phrofiad blaenorol i wirfoddoli?
Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad blaenorol er mwyn gwirfoddoli gydag Adran Chwaraeon yr Urdd. Mae cyfleoedd ar gael i unigolion gynorthwyo staff neu prentisiaid chwaraeon yr Urdd mewn clybiau lleol.
Er hyn, os oes gennych gymhwyster hyfforddi chwaraeon, bydd mwy o gyfleoedd a chyfrifoldebau ar gael i hyfforddi plant a phobl ifanc yn ein clybiau.
Mae hefyd modd ennill cymwysterau wrth wirfoddoli gyda ni, drwy wneud cais i ymuno llwybrau gwirfoddoli chwaraeon yr Urdd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Faint o oriau gwirfoddol sydd angen i mi gwblhau er mwyn ennill cymhwysterau/hyfforddiant chwaraeon?
Mae'r Adran Chwaraeon yn cynnig tri llwybr gwrifoddoli, sef Llwybr Efydd, Arian ac Aur. O fewn bob llwybr mae cyfleoedd i ennill cymwysterau chwaraeon.
Isafswm nifer o oriau gwirfoddol sy'n ofynnol ar gyfer bob llwybr er mwyn ennill cymwysterau/hyfforddiant chwaraeon yw:
- Llwybr Efydd - 15 awr
- Llwybr Arian - 30 awr
- Llwybr Aur - 45 awr
Pa adrannau arall sydd yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli o fewn yr Urdd?
- Gwersylloedd haf (Llangrannog, Glan-llyn neu Caerdydd)
- Gweithgareddau celfyddydol
- Aelwydydd/clybiau lleol
- Eisteddfodau lleol
- Eisteddfod Genedlaethol
- Fforymau ieuenctid