Mae'r Adran Chwaraeon yn cynnig tri llwybr gwrifoddoli, sef Llwybr Efydd, Arian ac Aur. O fewn bob llwybr mae cyfleoedd i ennill cymwysterau chwaraeon, derbyn cit yr Urdd, y cyfle i ymuno â fforymau chwaraeon yr Urdd a derbyn mentora gan staff a phrentisiaid yr Urdd. Wrth symud o un llwybr i'r nesaf, bydd mwy o gyfrifoldebau a chyfleoedd ar gael i chi fel gwirfoddolwr.
Sut i ymuno â'r llwybrau:
Ar ôl dechrau gwirfoddoli, bydd cyfle i chi wneud cais i ymuno â'r llwybrau gwirfoddoli.
O fewn bob llwybr mae cyfleoedd i ennill cymwysterau chwaraeon, derbyn cit yr Urdd, y cyfle i ymuno â fforymau chwaraeon yr Urdd a derbyn mentora gan staff a phrentisiaid yr Urdd. Wrth symud o un llwybr i'r nesaf, bydd mwy o gyfrifoldebau a chyfleoedd ar gael i chi fel gwirfoddolwr.
Llwybr Efydd
Isafswm oriau gwirfoddoli llwybr efydd:
- 15 awr
- Rhaid cwblhau oleuaf 10 awr o oriau gwirfoddol mewn clwb chwaraeon yr Urdd yn wythnosol
Beth sy'n cael ei gynnig ar y llwybr efydd?
- Hyfforddiant Gallaf Arwain neu cyfatebol
- Hyfforddiant Cynnwys Anabledd y DU Lefel 1
- Gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Crys-t a siwmper gwirfoddoli yr Urdd
- Derbyn mentora gan staff/prentisiaid yr Urdd wrth hyfforddi
- Cyfleoedd i wirfoddoli yn nhwrnameintiau chwaraeon yr Urdd
Rôl gwirfoddolwr efydd
- Cynorthwyo hyfforddwyr yr Urdd mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon
Llwybr Arian
Isafswm oriau gwirfoddoli llwybr arian:
- 30 awr
- Rhaid cwblhau oleuaf 20 awr o oriau gwirfoddol mewn clwb chwaraeon yr Urdd yn wythnosol
Beth sy'n cael ei gynnig ar y llwybr arian?
- Cynnwys y llwybr Efydd
- Hyfforddiant Diogelu Plant
- Hyfforddiant cwrs arwain chwaraeon penodol
- Mentora gan staff/prentisiaid yr Urdd wrth hyfforddi
- Cyfleoedd i wirfoddoli yn nhwrnameintiau chwaraeon yr Urdd
Rôl gwirfoddolwr arian
- Cynorthwyo hyfforddwyr yr Urdd mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon
- Cynllunio ac arwain gweithgareddau mewn clybiau chwaraeon
- Parodrwydd i roi cymorth i wirfoddolwyr efydd os oes angen
Llwybr Aur
Isafswm oriau gwirfoddoli llwybr aur:
- 45 awr
- Rhaid cwblhau oleuaf 30 awr o oriau gwirfoddol mewn clwb chwaraeon yr Urdd yn wythnosol
Beth sy'n cael ei gynnig ar y llwybr aur?
- Cynnwys llwybr efydd ac arian
- Hyfforddiant Lefel 1 Chwaraeon Penodol
- Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
- Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth
- Derbyn mentora gan staff/prentisiaid yr Urdd wrth hyfforddi
- Cyfleoedd i wirfoddoli yn nhwrnameintiau chwaraeon yr Urdd
- Hyfforddi yn annibynnol
Rôl gwirfoddolwr aur
- Cynorthwyo hyfforddwyr yr Urdd mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon
- Cynllunio ac arwain gweithgareddau mewn clybiau chwaraeon
- Parodrwydd i roi cymorth i wirfoddolwyr efydd ac arian os oes angen
- Hyfforddi clybiau chwaraeon yn annibynnol