Swyddog Nawdd a Phartneriaethau (Cyfnod Mamolaeth)

Teitl y Swydd:         Swyddog Nawdd a Phartneriaethau (Cyfnod Mamolaeth)

Math o gontract:     Tymor penodol (cyfnod mamolaeth), llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:                  Gweithredol 5: £30,216-£33,662 y flwyddyn

Lleoliad:                  Un o swyddfeydd yr Urdd (Caerdydd, Bangor, Caerfyrddin, Llangrannog, Glan-llyn,                                              Llansamlet)

Dyddiad Cau:           Dydd Gwener, 10 Ionawr 2025 am hanner nôs

Dyddiad Cyfweld:    Wythnos yn cychwyn 13 Ionawr

Swydd Ddisgrifiad:  Cliciwch yma

 

Y Swydd

Cyfle cyffrous i weithio fel rhan o dim Eisteddfod yr Urdd i sicrhau incwm a phartneriaethau i ddatblygu a chynnal yr ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop.

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, profiadol ac uchelgeisiol gyda chysylltiadau niferus i weithio gyda staff yr adran i ddenu nawdd o ffynonellau masnachol a chyhoeddus i Eisteddfod yr Urdd a gwaith Celfyddydol yr adran.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau ar lliomaddocks@urdd.org   

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at swyddi@urdd.org

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.