Teitl y Swydd: Goruchwyliwr Cegin a Llety
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos) neu rhan amser
Graddfa: Gweithredol 2: £22,459 - £24,763 (pro rata)
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn
Dyddiad Cau: 16/12/2024
Dyddiad Cyfweld: i'w gadarnhau
Swydd Ddisgrifiad: Cliciwch yma
Y Swydd
Goruchwylio ac arwain tîm o staff i gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau bwyd Glan-llyn a Glan-llyn Isa.
Cydymffurfio a sicrhau gweithredu’r gweithdrefnau a safonau disgwyliedig, arwain a dangos esiampl.
Sicrhau rhediad llyfn yr adran a’r Gwersyll.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Symonds ar 01678541000 neu huwsymonds@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.