Prentis Digwyddiadau Chwaraeon (Datblygu Chwaraeon), Lefel 3

Teitl y Swydd:  Prentis Digwyddiadau Chwaraeon (Datblygu Chwaraeon) Lefel 3 

Math o gontract:  Tymor penodol (13 mis), llawn amser (35 awr yr wythnos) 

Graddfa:  Cyflog Cenedlaethol yn ôl oedran

Lleoliad:  Swyddfa Llanishen, Caerdydd 

Dyddiad Cau:  Dydd Llun, 13 Ionawr 2025

Dyddiad Cyfweld:  i'w gadarnhau

Swydd Ddisgrifiad:   Cliciwch yma

 

Y Swydd

Nod y swydd fydd i gynorthwyo swyddogion digwyddiadau Chwaraeon i gynyddu’r gyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn digwyddiadau chwaraeon rhanbarthol a genedlaethol, drwy'r cyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Tom Birkhead, Rheolwr Digwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol ar tomosbirkhead@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at swyddi@urdd.org

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.