Cymera dy amser yn gweithio trwy unrhyw bryderon sydd gennyt. Mae adnoddau a chefnogaeth ar gael yn Gymraeg i dy helpu di.
Meddwl.org

"Mae achosion o glefydau heintus, fel Coronavirus (COVID-19), yn gallu codi ofn arnom ac effeithio ar ein hiechyd meddwl. Er ei fod yn bwysig i fod yn wybodus, mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud i gefnogi a rheoli ein lles yn ystod adegau fel hyn." Parhau i ddarllen ar meddwl.org >>
Meic

I’r rhai ohonoch sydd yn dioddef gyda gorbryder yna mae’r sefyllfa Coronafeirws presennol (neu’r Covid-19) yn gallu bod yn sbardun mawr i chi. Hyd yn oed os nad wyt ti’n dioddef o gorbryder nid yw’n syndod bod y sefyllfa yma yn achosi rhai ohonoch i boeni lot. Mae Meic yma i wrando ac i gynnig cyngor. Parhau i ddarllen ar wefan Meic Cymru >>