Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2025
Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn canolbwyntio ar Dlodi.
Gyda'r argyfwng tlodi plant presennol i'w weld yng Nghymru ac ar draws y byd, mae'r Urdd a phobl ifanc Cymru wedi dewis canolbwyntio ar y mater hollbwysig hwn.
Gydag un ym mhob tri o blant a phobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi, mae Neges Heddwch 2025 yn datgan yn glir yr angen am newid.
Daw newid a gweithred o’r gymuned yn gyntaf drwy roi llais i bawb. Galwn ar y bobl sydd mewn pŵer ar draws y byd i feddwl ac ystyried cenedlaethau’r dyfodol.
Crëwyd y neges eleni gan aelodau’r Urdd a myfyrwyr o Goleg y Cymoedd gyda chefnogaeth Katie Hall o’r band Chroma, elusen Achub y Plant a'r dylunydd graffeg Steffan Dafydd.
Mae geiriau’r neges mewn amryw o ieithoedd, pecyn addysg a phecyn partneriaid ar gael o’r wefan hon. Os hoffech unrhyw fanylion neu os hoffech gefnogi’r ymgyrch, cysylltwch gyda ni.
Heddwch@urdd.org
Gyda'n gilydd gallwn roi llais i bawb.
#Heddwch2025

Bydd y neges yn cael ei rannu gyda'r byd ar ffurf ffilm fer ar 15 Mai 2025.
Diolch am eich cefnogaeth
#Heddwch2025

Y Neges:


Galeri'r Gweithdy gyda phobl ifanc y Cymoedd a Choleg y Cymoedd 2025

