#Heddwch2020
Galwad i'r byd i ddeffro gan bobl ifanc Cymru
Neges 2020 gan Urdd Gobaith Cymru, oedd galw ar bobl ifanc ledled y byd i sicrhau nad yw gwersi a ddysgwyd gan argyfwng Covid19 yn cael eu hanghofio. Cafodd yr alwad ei chyfleu yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol pobl ifanc Cymru a lansiwyd ar y 18fed o Fai.
Roedd yr argyfwng wedi tanlinellu beiau mawr bywyd modern, ac fe alwodd 55,000 o aelodau’r mudiad cenedlaethol ar arweinwyr gwledydd y G20 i arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â’r materion hynny.
Ar ran aelodau’r mudiad, fe ysgrifennodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, at Brif Weinidog y DU, Boris Johnson; Arlywydd UDA, Donald Trump; Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin a phob arweinydd G20 arall.
Lansiwyd yr ymgyrch fyd-eang i dynnu sylw at yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu o argyfwng Covid19, gan ei alw’n “ddeffroad i’r byd” a rhybuddio yn erbyn dychwelyd i rai o ffyrdd hunanol, dinistriol y gorffennol.