Cyrhaeddiadau Rhyngwladol a Llwyddiannau Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021
Mae cyrhaeddiad rhyngwladol y neges wedi cynyddu flwyddyn ar ôl flwyddyn, wrth gyrraedd mwy o bobl a chymunedau ar draws y byd mewn amryw o ieithoedd gwahanol pob blwyddyn.
Cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd 2021 ar Gydraddoldeb i Ferched ei gyfieithu i 65 o ieithoedd a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol mewn 59 o wledydd. Cyrhaeddodd y neges fideo dros 5.2 miliwn o bobl ledled y byd – y Neges Heddwch fwyaf llwyddiannus yn hanes y neges!
Cydnabuwyd y neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan wleidyddion, sefydliadau ac enwogion ar draws y byd. Ymysg rhain oedd Hillary Clinton, UN Women, Michael Sheen, Matthew Rhys ac Iwan Rheon yn datgan eu cefnogaeth ar trydar. Roedd yr argraffiadau ar y cyfryngau cymdeithasol dros 84 miliwn i gyd, o raniadau ar y cyfryngau cymdeithasol i fideos o gefnogaeth gan rhai megis Llysgennad y DU i’r UDA – Karen Pierce.
Mae’r Urdd yn gobeithio ehangu ar lwyddiant Neges Heddwch 2021, gan gynyddu’r cyrhaeddiad rhyngwladol hyd yn oed yn fyw gyda’u canfed Neges Heddwch yn 2022, fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant yr Urdd.
Cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 hefyd lwyddiant gwobrwyol wrth ennill dwy wobr gyntaf yng Ngwobrau Heddychwyr Ifanc. Diolch i'r Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) am ddyfarnu'r ddwy wobr gyntaf: Heddychwyr Ifanc Digidol y Flwyddyn ac Arwyr Heddwch Ifanc y Flwyddyn.