Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2025
Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn canolbwyntio ar Dlodi. Gyda'r argyfwng tlodi plant presennol i'w weld yng Nghymru ac ar draws y byd, mae'r Urdd a phobl ifanc Cymru wedi dewis canolbwyntio ar y mater hollbwysig hwn.
Gydag un ym mhob tri o blant a phobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi, mae Neges Heddwch 2025 yn datgan yn glir yr angen am newid.
Daw newid a gweithred o’r gymuned yn gyntaf drwy roi llais i bawb. Galwn ar y bobl sydd mewn pŵer ar draws y byd i feddwl ac ystyried cenedlaethau’r dyfodol.
Crëwyd y neges gan aelodau’r Urdd a myfyrwyr o Goleg y Cymoedd gyda chefnogaeth Katie Hall o’r band Chroma, elusen Achub y Plant a'r dylunydd graffeg Steffan Dafydd.
Bydd geiriau’r neges mewn amryw o ieithoedd, pecyn addysg a phecyn partneriaid ar gael o’r wefan hon yn fuan iawn, ond yn y cyfamser os hoffech unrhyw fanylion neu os hoffech gefnogi’r ymgyrch, cysylltwch gyda ni.
Bydd y neges yn ymddangos ar ffurf ffilm fer ar ddydd Iau 15 Mai 2025. Diolch am eich cefnogaeth #Heddwch2025
Galeri'r Gweithdy gyd pobl ifanc neges heddwch 2025
