Sgwrs gyda Rob Jones
Prentis Y Mis - Awst 2023
Mae Rob yn brentis Datblygu Chwaraeon Lefel 3. Cafodd ei fagu ym Mhwllheli,ond mae o eisoes yn byw yn Llanbedr Pont Steffan. Wnaeth o fynychu Ysgol Glan Y Môr ac wedyn aeth ymlaen i astudio peirianneg yng Ngholeg Meirion Dwyfor.
Pam wnes di benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?
Manteisiais ar y cyfle i weld yr hyn yr oeddwn yn gallu ei wneud ar ôl cael fy ngwneud yn ddi-waith oherwydd Brexit. Wrth i mi fynd yn hŷn, sylwais fy mod yn datblygu wrth weithio a hyfforddi ar y cyd, felly roedd y brentisiaeth yn ymddangos fel rhywbeth y gallwn ei defnyddio i wella fy hun.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?
Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf yw gallu gweithio gyda phobl ifanc nad ydynt eto'n gwireddu eu potensial, a helpu i ddod â hynny i'r amlwg. Mae gwneud y brentisiaeth hon wedi rhoi'r sgiliau i mi fod yn fentor ac yn addysgwr gwell.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth yn ddwyieithog yn meddwl i ti?
Mae ymgymryd â'r brentisiaeth hon wedi golygu fy mod wedi gwneud cysylltiadau â mwy o bobl yn ddwyieithog ac mae hyn wedi rhoi cyfleoedd i mi fydd yn fuddiol i mi yn y dyfodol.
Sut mae gwneud y brentisiaeth wedi datblygu dy sgiliau Cymraeg?
Mae fy sgiliau Cymraeg wedi gwella'n ddramatig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae gen i'r hyder i gyfathrebu yn y Gymraeg yn well nag erioed, ac mae hynny i gyd diolch i fentora a diwtora tîm yr Urdd ardderchog.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Rwyf wrth fy modd yn darlunio a phaentio, o bosibl oherwydd bod fy nwy ferch ifanc yn fy nghadw i’n brysur. Dwi'n chwarae badminton a golff, ond fy niddordeb mwyaf yw rygbi. Rwy'n hyfforddwr WRU ac yn ddiweddar rwyf wedi cymhwyso fel dyfarnwr WRU.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Wrth wneud y brentisiaeth hon, rwyf wedi gallu gwella fy sgiliau o weithio gyda phobl i wthio fy nealltwriaeth o'r hyn y gallaf ei gyflawni. Rwyf wedi cael profiad amhrisiadwy sydd wedi tanio fy llawenydd o ddysgu a gwthio fy hun allan o'm man cyfforddus.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Fel rhiant sengl, rwyf bob amser yn ymwybodol o sut mae fy ngwaith yn effeithio ar fy mywyd teuluol. Fy ngobaith yw y bydd cwblhau'r brentisiaeth hon yn agor drysau i gyfleoedd a fydd yn fy helpu i gyflawni'r cydbwysedd bywyd gwaith sy'n gweithio i'r teulu.
Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.
Fel rhiant a chynorthwyydd addysgu, mae gen i gyfrifoldeb i osod esiampl yn y gwaith ac adref. Pan fyddaf yn gweithio un i un gyda myfyriwr, yn cymryd dosbarth, hyfforddi, neu'n gwneud dyletswyddau rhiant, byddaf i'n gwneud yn siŵr fy mod i'n gwneud fy ngorau. Dydw i ddim yn cael pethau’n iawn trwy’r amser - does neb yn! Ond, trwy gymryd cyfrifoldeb, byddaf bob amser yn symud ymlaen ac yn dysgu o'r camgymeriadau hynny, ac yn trosglwyddo'r profiad hynny i'r bobl ifanc rwy'n gweithio gyda. Rwy'n credu ei fod yn un o'r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gen i fel rhiant ac addysgwr.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Pe bai'n rhaid i mi ddewis dim ond tri gair, byddwn yn dewis potensial, hyder a chyfeillgarwch!
Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?
Ni allaf bwysleisio faint o rôl bwysig y mae fy aseswr, tiwtoriaid a mentoriaid wedi'i chael yn ystod fy nghyfnod yn y brentisiaeth hon. Mae eu profiad a'u mewnbwn wedi bod yn amhrisiadwy. Mae eu gallu nhw i weld potensial a gwthio fi i gyflawni mwy wedi rhoi cymaint o hyder i mi yn fy ngallu i lwyddo yn academaidd. Doeddwn i byth yn meddwl y gallwn gyflawni safon Gymraeg Lefel 3, ond gwelon nhw rywbeth na welais i a byddaf yn dragwyddol yn falch o’r cyfle yma.