Dyma Jess Williams, sy'n brentis ‘Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant’ drwy bartneriaeth cyffrous rhwng y Mudiad Meithrin a’r Urdd. Mae Jess yn gweithio yng Nghylch Meithrin Dolgellau. Dyma sgwrs cawsom am ei phrentisiaeth a'i gwaith yn y feithrinfa.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio arno?
Y peth gorau am gynllun prentisiaeth y Mudiad Meithrin yw gallu gwella fy hun a fy nealltwriaeth yn y sector gofal plant er mwyn cefnogi plant ifanc.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei olygu i ti?
Mae gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn grêt. Dwi wrth fy modd!
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae’r cynllun wedi gwneud i fi weld pethau drwy bersbectif gwahanol ac wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi. Mae hefyd wedi helpu i ddatblygu fy hyder.
Byddet ti’n argymell unigolyn sydd â diddordeb gweithio gyda phlant ifanc i wneud y cwrs?
Byswn, mae’r cwrs yn eithaf heriol ond mae’n rhoi cymaint o foddhad!