Mae Erin yn dod o Gaerdydd a mae hi’n gwneud prentisiaeth Gwaith Ieuenctid tra’n gweithio i Adran Cymunedol yr Urdd fel Swyddog Ieuenctid Casnewydd. Wnaeth hi cael i grybwyll am Prentis y Mis am weithio mor galed efo tutor Sgiliau Hanfodol hi ar gyfer Rhifedd a Llythrennedd Digidol. Mae wedi ymrwymo’n llwyr ac yn dangos blaengaredd i lwyddo.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Penderfynais ymgymryd a phrentisiaeth gyda’r Urdd ganfod hynny'n helpu fi o ddydd i ddydd yn y gwaith, felly rwyf yn ennyn gwybodaeth a dealltwriaeth o phobl ifanc. Fel enghraifft, rwyf yn cynnal sesiynau 1:1 gyda phobl ifanc ac mae’r prentisiaeth gwaith ieuenctid wedi helpu fi sut i ddelio a rhoi dealltwriaeth ar sut i rhoi cefnogaeth iddyn nhw.
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Llythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?
Teimlaf fy mod i wedi datblygu nifer o sgiliau ers dechrau fy mhrentisiaeth, yn enwedig Llythrennedd Digidol. Mae’r cwrs yma wedi fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau newydd rydw i yn defnyddio o ddydd i ddydd o fewn gwaith megis Canva. Rwyf yn defnyddio hyn yn rheolaidd fel gweithiwr ieuenctid i greu posteri, fideos a chyflwyniadau wrth hyrwyddo a hysbysebu fy ngweithgareddau a thripiau.
O rhan rhifedd, dyma oedd y pwnc ffeindiais yn heriol ers fod yn fach. Mae Sioned wedi helpu fi llawer trwy gynnal sesiynau 1:1 sydd yn helpu datblygu sgiliau rhifedd ac hefyd fy hyder wrth wneud hyn. Rwyf yn teimlo’n llawer mwy hyderus ers cychwyn y sesiynau yma. Rwyf ar hyn o bryd yn gwblhau fy dasg o dan rheolaeth ac ar hyn o bryd yn paratoi ac adolygu ar gyfer hyn.
I ategi, rwyf wedi datblygu nifer o sgiliau gyfathrebu ers cychwyn fy swydd o fewn yr Urdd, yn enwedig hyder. Fel rhan o fy rôl, mae rhaid i mi gynnal gweithgareddau a tripiau i phobl ifanc ac hyrwyddo rhain. Rwyf yn gwneud gwasanaethau i’r plant mewn ysgol yng Nghasnewydd. Ers neud yr un gyntaf teimlaf yn llawer fwy cyfforddus i wneud hyn.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae ymgymryd â Sgiliau Hanfodol wedi effeithio ar dy swydd?
Rwyf yn mwynhau fy swydd yn yr Urdd fel Gweithiwr Ieuenctid Casnewydd - dyma ardal newydd i mi ac felly rydym yn mwynhau dod i adnabod yr ardal ar gymuned. Y peth mwyaf dwi’n mwynhau yw cynnal tripiau i phobl ifanc. Cytunaf bod sgiliau hanfodol wedi fy helpu o ddydd i ddydd, megis cyfathrebu.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Mae gen i balchder ymgymryd a phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd mae’n hollbwysig i mi a teimlaf fy mod yn llawer fwy hyderus yn cyflawni fy ngwaith prentis yn y Gymraeg, nar Saesneg. Rydw i’n dod o deulu sydd yn siarad yn Saesneg ac felly’n bwysig iawn i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg ymhellach.
Ym mha ffordd mae gwneud Sgiliau Hanfodol fel rhan o dy brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Teimlaf bod sgiliau hanfodol wedi cael effaith ar fy natblygiad personol trwy ddatblygu sgiliau newydd a datblygu dealltwriaeth gwell. Mae Sioned wedi bod yn gefnogol ac amyneddgar iawn gyda fi trwy gydol rhifedd, ac mae gen i ddealltwriaeth clir a gwell o rhifedd erbyn hyn. Teimlaf fy mod wedi datblygu sgiliau mathemategol newydd o’n i ddim yn ddeall pan oedden i yn yr ysgol Uwchradd.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Datblygu fy dealltwriaeth a sgiliau ymhellach o fewn sector ieuenctid a chymuned.
Disgrifia dy brofiad o wneud Sgiliau Hanfodol gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Cefnogol, hyderus a dealltwriaeth.