Merch o Lyn Ebwy yw Mali, a fynychodd Ysgol Gymraeg Gwynllyw. Cafodd Mali ei enwebu am waith o safon uchel ac am ei brwdfrydedd parhaol. Dywedodd ei rheolwr Hannah Evans, “Mae Mali yn hynod o weithgar ac wedi serennu yn y misoedd cyntaf fel Prentis Chwaraeon, Hamdden a Lles Actif Lefel 2 . Mae Mali wastad yn barod i helpu a rhoi cynnig ar bob dim. Mae sgiliau arwain Mali o fewn clybiau wedi datblygu gymaint o fewn y cwpwl o fisoedd diwethaf a gallai gweld ei angerdd at wneud gwahaniaeth i brofiadau plant sy'n mynychu ein clybiau. Edrychaf ymlaen at weld Mali yn parhau i ddisgleirio a thyfu yn ystod ei phrentis. Dal ati Mali!”
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd
Penderfynais ymgymryd â phrentisiaeth gyda’r Urdd oherwydd y cyfleoedd oedd ar gael o ran cyrsiau i ddatblygu fy sgiliau yn y byd chwaraeon. Ers i mi fod yn ifanc, dwi wedi mwynhau chwaraeon a pan orffennais fy addysg chweched dosbarth, doeddwn i ddim yn siŵr pa swydd oeddwn i eisiau ymgymryd ynddo fo - nid oedd y brifysgol i mi. Felly pan welais y cyfle yma gyda’r Urdd, roedd rhaid i mi fynd amdani!
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Y peth dwi’n mwynhau mwyaf am fy mhrentisiaeth yw cwrdd â phobl newydd sydd efo’r un diddordebau a fi, a hefyd y gallu i annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Fy niddordebau tu allan i waith yw chwarae pêl-rwyd a chymdeithasu efo ffrindiau.
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu LlythrenneddDigidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?
Wrth wneud fy mhrentisiaeth, rydw i wedi datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu.
Mae’r brentisiaeth wedi helpu i mi ddatblygu llythrennydd digidol wrth wneud fy ngwaith cwrs ar Word. Dwi wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu drwy arwain sesiynau chwaraeon a hefyd wedi datblygu fy sgiliau rhifedd drwy wneud tasgau WEST (pecyn cymorth sgiliau hanfodol Llywodraeth Cymru).
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Wrth weithio fel prentis am y misoedd diwethaf a drwy gwblhau cyrsiau a derbyn cymwysterau, mae fy sgiliau wedi datblygu a gallwn i gael swyddi gwahanol. Hoffwn gael swydd gyda’r Urdd fel cydlynydd, gan fy mod yn uniaethu a chredoau'r Urdd.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Fy nyletswydd i yw cynorthwyo yn ystod sesiynau chwaraeon. Mae hyn yn golygu fy mod i yna i helpu’r arweinwyr a hefyd rhoi cymorth i’r plant yn ystod y gwersi.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Hwyl, cyffroes a chyfleoedd.