PRENTIS Y MIS - EBRILL 2020
Sgwrs Gyda Catrin Awel Davies - Prentis (Mewnol Lefel 2/blwyddyn 1) y mis!
Mae Catrin yn dod o Glydach, Abertawe. Fe mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac yna phenderfynodd ymgeisio i wneud prentisiaeth chwaraeon gyda'r Urdd. Dyma mwy am ei stori hi!
Pam wnaethost ti ddewis ymgeisio i wneud prentisiaeth gyda'r Urdd?
Dewisais gwneud y prentisiaeth oherwydd mae’n gyfle gwych i ehangu fy sgiliau personol a dysgu amrywiaeth o sgiliau newydd. Hefyd, dwi’n amlwg yn hoff iawn o chwaraeon a felly doedd dim swydd gwell i mi!
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd?
Dwi’n mwynhau gallu dysgu sgiliau newydd i blant gwahanol a gweld eu hapusrwydd wrth iddynt llwyddo mewn rhywbeth newydd!
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig cael cyfleoedd o fewn cymunedau i wneud chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg felly mae gallu darparu hwn yn fraint i mi. Mae’n dangos i blant bod y Gymraeg yn iaith fyw a bod modd mwynhau chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg!
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae’r prentisiaeth wedi fy nysgu sut i ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol, gan gynnwys sefyllfaoedd byswn fel arfer wedi teimlo'n anghyforddus. Dwi wedi datblygu llawer mwy o hyder trwy’r hyfforddi.
Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.
Fel rhan o’r prentisiaeth, rwy'n rhedeg amrywiaeth o glybiau chwaraeon i blant fy ardal. Hefyd, os oes angen cysylltu gydag ysgolion, falle ar gyfer trefnu sesiynau blasu, fi bysai’n gwneud hynny. Mae angen cynllunio’r sesiynau a pharatoi ar gyfer pob clwb. Rydw i hefyd yn delio gyda’r arian sydd yn dod o’r clybiau dwi’n rhedeg.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Dwi’n joio cerdded y cwn gyda’r teulu, mae gen i ddau gi mawr felly mae angen llawer o gerdded arnyn nhw! Dwi hefyd allan yn aml gyda ffrindiau yn cymdeithasu neu allan ar y beic!
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Hwyl! Cyffrous! Addysgol!