PRENTIS Y MIS - EBRILL 2020
Sgwrs Gyda Dafydd Wyn Jones - Prentis (Mewnol Lefel 3/blwyddyn 2) y mis!
Mae Dafydd Wyn Jones yn dod o Rydlewis, Ceredigion. Fe mynychodd ysgol Bro Teifi a thra’r oedd yn yr ysgol, roedd Dafydd yn gweithio rhan amser yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Roedd e’n hoff iawn o’r gwaith ac ar ôl iddo adael yr ysgol, penderfynodd gwneud prentisiaeth Gweithgareddau Awyr Agored gyda’r Urdd yn y gwersyll.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy brentisiaeth?
Rwyf wrth fy modd fy mod yn cael y cyfle i dderbyn hyfforddiant, i ddatblygu fy sgiliau tra hefyd yn ennill cyflog!
Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.
Cynnal gweithgareddau ar draws y gwersyll i grwpiau o gyfranogwyr, tra’n hybu’r iaith Gymraeg hefyd. Rwyf
hefyd yn cymryd rhan mewn tasgau amrywiol cynnal a chadw er mwyn sicrhau fod yr holl weithgareddau yn ddiogel ac yn barod i’w defnyddio.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Mae’n golygu fy mod yn medru datblygu fy Nghymraeg ym mhellach ers gadael yr ysgol.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Rwyf wedi cael y siawns i ddatblygu nifer o’m sgiliau. Rwyf wedi dysgu sut i drin a thrafod gwahanol mathau o gyfranogwyr yn gywir a deall pam mae angen i ni gwneud hyn.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Bowlio! Rwy’n rhan o dîm Bowlio Cymru ac yn mwynhau chwarae’r gêm yn fawr!
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Werth ei neud!