Sgwrs gydag Aron Cowdy
Prentis y Mis, Ebrill 2022
Mae Aron yn dod o Aberystwyth a bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Penweddig, ac mae ar hyn o bryd yn cwblhau prentisiaeth Datblygu Chwaraeon Lefel 3 gyda’r Urdd, ac yn gweithio o fewn yr adran Digwyddiadau Chwaraeon. Dyma ychydig o’i hanes!
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Eisiau rhoi cyfle i blant i ddysgu a datblygu yn y byd chwaraeon a deall sut mae’n gallu dod a nifer o elfennau cadarnhaol i'w bywydau.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Amrywiaeth o dasgau o ddydd i ddydd. Cyfathrebu gyda nifer o wahanol sefydliadau a phobl a chydlynu i ddarparu digwyddiadau sy’n denu nifer fawr o bobl.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Mae’n helpu fi i deimlo fel rhan o gymuned sy’n gweithio i hybu defnydd o’r iaith a balchder yn ein cenedligrwydd.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Hoffi cadw’n ffit wrth fynd i’r gampfa neu allan i redeg yn aml. Dilyn nifer o wahanol chwaraeon proffesiynol ac edrych ymlaen at fynychu rhai cystadlaethau fel gemau'r Gymanwlad neu ras F1 Monza sydd nes ymlaen yn y flwyddyn.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Wedi gwella fy hyder wrth gyfathrebu gyda phobl, yn benodol drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd wedi datblygu fy nealltwriaeth o’r math o bethau sy’n mynd ymlaen ‘behind the scenes’ mewn digwyddiadau chwaraeon.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Gobeithio parhau gyda thîm digwyddiadau chwaraeon yr Urdd i ddatblygu fy sgiliau ac ennill profiad wrth ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ar draws Gymru.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Cysylltu gydag ysgolion, arlwywyr, arddangoswyr, ayb i’w gadael iddynt wybod am yr hyn rydym yn cynnig a hefyd i hybu iddynt i ymuno yn ein digwyddiadau.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Diddorol, Amrywiol, Hapus!
Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?
Roedd yr amser ar ôl gollwng allan o’r Brifysgol yn weddol anodd i ddarganfod beth oeddwn eisiau ei wneud. Yn ystod yr amser yma, fe wnes i weithio mewn nifer o wahanol geginau. Rwy’n hapus o’r profiad ges i o’r swyddi yma, ond yn teimlo fel dwi nawr yn gwybod pa gyfeiriad i’w fynd i ddatblygu fy hun.