Mae Sean Davies yn brentis Arwain Gweithgareddau Lefel 2, ac yn gweithio i Byw’n Iach yng Ngwynedd, wnaeth o fynychu Ysgol Dyffryn Nantlle, yn wreiddiol o Llanllyfni a nawr yn byw yng Nghaernarfon.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?
Wedi cael cyfle i wneud prentisiaeth efo Cyngor Gwynedd ydw i i fod yn honest, a mae’r cymhwyster drwy hynny yn dod gan yr Urdd. Wnes i’r penderfyniad oherwydd fy mod i’n hoffi’r cyfle o cael gwaith yn y maes chwaraeon.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?
Dysgu nofio i blant yr ardal leol, ac ysgolion lleol hefyd. Mae’r brentisiaeth wedi galluogi i mi wneud cyrsiau arbennig er mwyn gallu gwneud pethau fel dysgu nofio a bod yn achubwr bywyd.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Mae’r ffaith fy mod i’n gallu mynd drwy diwrnod cyfan a dim ond siarad Cymraeg yn meddwl y byd i mi. Mae’r iaith yn ofnadwy o bwysig a rwyf yn falch o’i ddefnyddio o ddydd i ddydd
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Dwi’n hoff iawn o bêl-droed, yn cefnogi Lerpwl ac yn mynd i wylio gemau Cymru mor aml â phosib. Mae gen i ddiddordeb mewn F1 hefyd, a rwyf yn hoff iawn o gerddoriaeth. Rwyf hefyd yn cymryd bob cyfle i fynd am dro o gwmpas fy ardal leol a weithia’n ehangach – mae bod allan yn yr awyr iach yn un o fy hoff bethau.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Rwyf yn llawer fwy hyderus yn fi fy hyn a fy ngallu rŵan i gymharu â adeg yma blwyddyn yn ôl. Heb y brentisiaeth ‘dw i ddim yn meddwl fyswn i wedi datblygu’n bersonol gymaint a hyn!
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Ddim yn rhy siŵr ar hyn o bryd, ond bydd aros yn y maes chwaraeon mewn rhyw ffordd yn blaenoriaeth i mi.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Rwyf yn gyfrifol am ddysgu nofio i ddosbarthiadau yn ystod y dydd ac mewn gwersi gyda’r nos. Rwyf hefyd yn achubwr bywyd i sesiynau cyhoeddus yn y pwll nofio, yn dibynnu ar yr amserlen y diwrnod. Mae gan bob aelod o staff dyletswyddau glanhau i wneud bob dydd hefyd.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Diddorol, heriol, mwynhad!