Mae Tomos Pritchard yn dod o Amlwch ac yn Brentis Chwaraeon Hamdden Actif a Lles Lefel 2 efo tîm Chwaraeon Eryri a Môn. Mynychodd Tomos Ysgol Syr Thomas Jones. Dywedodd Llyr Roberts Rheolwr Llinell Tomos “Mae Tom yn weithgar yn ei waith o hyd. Mae ei agwedd yn un bositif. Mae Tom wedi magu hyder ac sgiliau gwahanol yn ystod y 6-7 mis diwethaf yn ogystal a datblygu perthnasoedd da gyda’r plant yr ysgolion a clybiau cymunedol. “
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Joio chwaraeon ac eisiau cael cymwysterau mewn chwaraeon felly oedd swydd yma yn no brainer.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Gweld plant yn datblygu trwy sesiynau ni ac yn creu ffrindiau newydd
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Rwy'n gôl-geidwad i Glwb Pêl-droed Tref Caernarfon ac rwyf wrth fy modd yn mynd i Anfield pan fydd Lerpwl yn chwarae
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae fy hyder wedi gwella ac mae fy sgiliau hyfforddi hefyd wedi gwella. Rwy'n teimlo bod siarad â phobl nad wyf wedi cwrdd â nhw o'r blaen wedi dod yn haws hefyd
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Lythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?
Mae datblygu fy sgiliau llythrennedd digidol wedi helpu llawer gan ei fod yn fy ngalluogi i gwblhau fy ngwaith cwrs. Hefyd, mae datblygu fy sgiliau cyfathrebu wedi fy helpu i siarad â phobl mwy.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Aros gyda’r Urdd tan maen nhw wedi cael digon ohonof i!
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau
Sicrhewch fod plant yn mwynhau ein sesiynau a'u bod yn gynhwysol
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Hwyl, Profiadau a Datblygiad
Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?
Roeddwn yng Ngholeg Menai Llangefni yn astudio i fod yn drydanwr, canfûm nad oedd prentisiaethau ar gael yn y maes hwnnw felly es i fy ail opsiwn sef chwaraeon. Fe wnes i gyflwyno cais i'r Urdd a nawr rydw i mewn swydd llawn amser yn mwynhau pob munud ohono!