PRENTIS Y MIS - AWST 2018
Jac Jenkins
Yn wreiddiol o Ynysybwl, ger Pontypridd mae Jac nawr yn gweithio fel rhan o dîm chwaraeon yr Urdd yn ardal Caerdydd a’r Fro. Mae Jac yn ei flwyddyn gyntaf o’i brentisiaeth ac yn astudio at NVQ Lefel 2 Arwain Gweithgareddau.
Mynychodd Jac Ysgol Gynradd Evan James cyn symud at Ysgol Gyfun Garth Olwg ble wnaeth Jac cwblhau ei Lefelau A.
Mae Jac wedi ymwneud gyda chwaraeon erioed. Mae’n chwaraewr tenis bwrdd talentog, gydag un o uchafbwyntiau ei yrfa pan enillodd y fedel arian yn y gystadleuaeth Taith Ewropeaidd - Malta Open yn 2014. Mae Jac hefyd yn mwynhau chwarae rygbi, ac yn chwarae i dîm Llantwit Fadre.
Mae Jac wedi ymgartrefi’n dda gyda’r tîm yng Nghaerdydd ac yn mwynhau mynd allan i ysgolion ac i'r gymuned yn rhedeg amryw o glybiau chwaraeon. Mae Jac hefyd wedi cael cyfle i weithio ar nifer o gystadleuaeth genedlaethol yr Urdd, a hefyd fel rhan o benwythnos Gemau Cymru. Mae o’n aelod hanfodol o’r tîm, a bob tro’n barod i weithio gyda gwên!
Mae Jac yn gobeithio i barhau gyda’i brentisiaeth a gweithio tuag at NVQ Lefel 3 Datblygu Chwaraeon. Yn dilyn hynny, mae’n awyddus i fynd ymlaen i astudio gradd datblygu chwaraeon.