Mae Chris yn dod o Gaerdydd ble wnaeth o fynychu Ysgol Greenhill ble mae e erbyn hyn yn cyflawni prentisiaeth Arwain Gweithgareddau. Mae Ysgol Greenhill yn unigryw, oherwydd mae disgyblion yr ysgol wedi profi anawsterau sylweddol efo eu ymddygiad yn ysgolion prif ffrwd Greenhill ac mae hyn yn aml yn arwain at diffyg ymrwymo efo’r cwricwlwm arferol - mae disgyblion yn cael i gyfeirio gan yr Awdurdod Lleol.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?
Roedden i eisiau gwneud y cwrs Arwain Gweithgareddau Lefel 2 i ddeall sut i ddarparu ar gyfer dysgwyr gwahanol ac i ddeall sut i arddangos dilyniant dysgwr ar bapur i rhieni.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?
Rydw i'n caru gallu rhoi llwybr gwahanol i ddysgwyr i allu gweld bod bywyd da arall allan yna iddynt, ac nid efallai y bywyd mae rhywun wedi penderfynu iddynt.
Heblaw am y gweithgareddau mae’r ysgol yn darparu, bydda’r ysgol ddim yn gweithio. Diolch i'r cwrs rydw i'n gwneud dwi’n gallu rhoi y pethau yma ar bapur i brofi bod beth i ni’n gwneud yn gweithio.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth dwyieithog yn meddwl i ti?
Mae’n meddwl fy mod i yn gallu ymrwymo yn y gwaith ac yn ei deall e.
Sut mae gwneud y brentisiaeth wedi datblygu dy sgiliau Cymraeg?
Rydw i'n deall mwy a mwy ond ddim yn hyderus yn siarad e eto.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Rydw i yn Arweinydd Dŵr Gwyn Rhyngwladol ac yn hyfforddi SUP.
Rydw i hefyd yn chwarae gemau cyfrifiadur yn fy amser rhydd.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae’n helpu fi i brofi ar bapur bod beth ni’n gwneud fel ysgol wir yn gweithio ac ers gwneud y cwrs rydw i'n dysgu gwahanol ffyrdd o gwneud pethau.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Rydw i yn gobeithio parhau efo fy swydd cynorthwyo yn Ysgol Greenhil a gweithio tuag at fod yn cynorthwydd uwch.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Angerddol. Penderfynol. Cynnydd.