Mae Sioned yn dod o Langrannog a mynychodd hi Ysgol Bro Teifi, mae hi newydd orffen prentisiaeth Chwaraeon, Hamdden Actif a Lles lefel 2 ac yn symud ymlaen i Datblygu Chwaraeon Lefel 3.   

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Yn y Chweched Ddosbarth, wnes i’r penderfyniad i fynd lawr y llwybr prentisiaeth oherwydd ers yn blentyn fach rwyf wastad wedi cael fy niddori yn y maes chwaraeon. Dwi wedi mentro pob math o chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf ac yn teimlo byddai prentisiaeth gyda’r Urdd yn berffaith. Mae prentisiaeth yn ffordd grêt o ddysgu sgiliau newydd drwy ennill arian ar yr un pryd, mae’r Urdd wedi bod yn rhan pwysig wrth i mi dyfu lan o fynychu clybiau’r urdd i eisteddfodau i gystadlaethau felly roeddwn yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Urdd. Cyn dechrau’r prentisiaeth, roeddwn yn cynorthwyo gyda dyfarnu ac hyfforddi yn yr ysgol, felly yn cael y profiadau a fyddai’n fuddiol iawn i’r swydd. 

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth? 

Dwi’n mwynhau’r ffaith fod pob diwrnod yn wahanol, rwy’n cwrdd a phlant gwahanol bob wythnos ac yn mwynhau rannu profiadau a gwybodaeth gyda nhw. Wrth gynnal sesiynau gyda’r plant yn wythnosol, dwi wrth fy modd yn gweld y plant yn datblygu eu sgiliau yn ogystal a datblygu fel person. Dwi’n mwynhau’r cyfleoedd a phrofiadau rwy’n ei derbyn, er enghraifft gweithio yng nghystadlaethau genedlaethol ble mae pawb yn dod at ei gilydd i weithio fel tîm a chymdeithasu, dwi wedi bod yn lwcus iawn o gael fy newis i fynd ar daith mis diwethaf i Kenya! Roedd hyn yn brofiad bythgofiadwy ac yn sicr yn agoriad llygaid, felly yn ddiolchgar iawn am y cyfle gwych yma.  

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti? 

Ers yn ifanc iawn, mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i mi, dwi wedi cael fy addysg i gyd yn Gymraeg, felly yn dod yn naturiol i gyfathrebu yn Gymraeg yn syth ac hefyd yn helpu drwy gwblhau’r holl waith gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Credaf eu bod yn bwysig i gadw’r iaith i fynd wrth gynnal sesiynau chwaraeon yn Gymraeg i’r plant oherwydd maent yn dysgu sgiliau sylfaenol bywyd fel cymdeithasu yn yr iaith ac yn y dyfodol dwi’n credu bod gallu siarad Cymraeg yn agor gymaint o lwybrau gwahanol pan yn chwilio am swydd ac ati. 

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith? 

Tu allan i’r gwaith, dwi’n chwarae hoci i dîm Menywod Castell newydd Emlyn, dwi’n ymarfer unwaith yr wythnos ac yn chwarae gêm ar ddydd Sadwrn yng nghynghrair Prem 2 De Cymru. Dros yr Haf, dwi’n chwarae rygbi cyffwrdd i dîm lleol Cranogwen ble rydym yn chwarae mewn cynghrair yn Llandysul. Dwi’n hoff iawn o gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu, felly yn mynd allan am fwyd neuwac yn aml iawn. Dwi’n byw ar ffarm, weithiau dwi yn helpu allan pryd fydd angen yn enwedig ar amserau prysur fel wyna. 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Yn sicr, credaf fy mod yn berson gwahanol nawr i gymharu â dechrau’r prentisiaeth, dwi’n llawer mwy hyderus wrth gyfathrebu a phobl newydd dros y ffon, ar lafar neu’n ysgrifenedig. Dwi wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau fel trefnu ac amser, cyfathrebu, llythrennedd ac yn sicr wedi effeithio ar datblygiad personol. Mae gen i lawer o brofiadau i rannu gyda phobl wedi cwblhau y flwyddyn cyntaf o brentisiaeth ac wedi helpu i fod y person yr ydwyf nawr. Dwi’n ymwybodol nawr bod pob plentyn yn wahanol ac dwi’n gwybod sut i ddelio gyda’r ymddygiadau yma yn agored. 

Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Llythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth? 

Mae sgiliau rhifedd wedi cyfrannu yn ddyddiol wrth rannu grwpiau yn gyfartal mewn sesiynau, pan yn trefnu amser ar gyfer gemau penodol, yn ogystal â gwneud canlyniadau ac amserau mewn cystadlaethau rhanbarthol a genedlaethol. Dwi’n credu mae’r sgil mwyaf sydd yn cyfrannu at fy mhrentisiaeth yw cyfathrebu, dwi’n cyfathrebu gyda llawer o bobl yn ddyddiol boed yn cydweithwyr, plant, rhieni ac ysgolion. Dwi’n cyfathrebu mewn ffyrdd gwahanol fel e-bost, dros y ffon ac wyneb i wyneb, mae’n bwysig gwybod sut i gyfathrebu gyda phobl gwahanol oherwydd gall fod yn ffurfiol neu’n anffurfiol. Yn olaf, dwi’n defnyddio sgiliau llythrennedd digidol wrth gwblhau gwaith cwrs ac ysgrifennu e-bost, mae hyn yn sicr wedi cyfrannu at fy mhrentisiaeth ac wedi cael eu datblygu drwy gydol y flwyddyn. 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Dwi’n gobeithio aros yn yr Urdd a gweithio ffordd i fyny’r swyddi, dwi wedi mwynhau’r flwyddyn diwethaf yn fawr ac yn awyddus am y flwyddyn nesaf a gobeithio’r flynyddoedd i ddilyn. 

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau. 

Fy mhrif ddyletswyddau fel prentis yw arwain sesiynau yn wythnosol drwy gyfrwng y Gymraeg, dwi’n cydweithio gyda staff yr adran ac ysgolion er mwyn annog plant a phobl ifanc ymgymryd â chyfleoedd yn ei ardal. Dwi hefyd yn cynorthwyo gyda hysbysebu clybiau, cystadlaethau a gwirfoddolwyr ar chyfryngau cymdeithasol yn wythnosol. 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair! 

Cyffrous, Buddiol, Gwobrwyol 

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?  

Credaf fy mod wedi gweithio’n galed dros y flwyddyn diwethaf ac yn falch iawn o barhau gyda’r Urdd am flwyddyn arall. Dwi’n meddwl fy her mwyaf oedd ffeindio amser a chydbwysedd rhwng y  gwaith cwrs yn a’r holl waith ymarferol oedd angen gwneud. Dwi’n ddiolchgar iawn am bob cyfle rwyf wedi derbyn ac yn gyffrous am y cyfleoedd a phrofiadau yn y dyfodol.