Mae Nerys Evans o’r Hendygwyn yn Sir Gâr. Fe wnaeth hi fynychu Ysgol Gynradd Meidrim a wedyn ymlaen i Ysgol Gyfun Dyffryn Tâf. Mae Nerys yn brentis Gofal Plant Lefel 3 ac yn gweithio yn Nghylch Meithrin Hywel Dda. Wnaeth hi gael ei henwebu am fod mor bositif ac am wneud pob gweithdy yn hwyl. Mae hefyd wedi cyflawni ei gwaith craidd yn llwyddiannus.
Pam wnes di benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda’r Urdd?
Mae’r brentisiaeth gyda'r Urdd drwy gyfrwng y Gymraeg, felly gallaf astudio yn fy iaith gyntaf.
Beth wyt ti’n mwynhau fwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?
Rwy'n mwynhau gweithio gyda phlant a’u helpu nhw i ddysgu a chyrraedd eu llawn potensial. Mae'r brentisiaeth yn golygu gallaf astudio wrth ochr gweithio. Rwy'n cwblhau'r gwaith cwrs adref ac wedyn yn gwneud yr asesiadau ymarferol yn y gweithle.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Gan fod pob agwedd o’r Cylch Meithrin yn y Gymraeg, mae'n bwysig iawn i mi gwblhau'r brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Pan dwi ddim yn gweithio, rwy'n mwynhau treulio amser gyda'r teulu yn mynd am dro i’r traeth neu’r goedwig. Hefyd, rwy'n hoffi mynd i'r theatr a ddarllen.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae gwneud y brentisiaeth yn golygu gallaf ddatblygu’n broffesiynol wrth ochr gweithio. Hefyd, mae'n fy ngalluogi i ddiweddaru fy sgiliau.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Hoffwn i barhau i weithio gyda phlant yn y Cylch Meithrin.
Disgrifia yn fras dy dyletswyddau.
Fel rhan o dîm, rydw i’n gyfrifol am ofalu ac addysgu plant o 2.5 oed hyd at oedran ysgol. Rydyn ni’n creu cyfleoedd i blant i ddysgu drwy chwarae. Mae llesiant y plant sydd yn y Cylch yn ganolog i bopeth rydyn ni'n gwneud. Rydyn ni'n monitro datblygiad y plant ac yn adlewyrchu ar ein hymarferion drwy'r amser. Mae gwrando ar lais y plentyn mor bwysig er mwyn dilyn eu diddordebau nhw.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth mewn 3 gair!
Diddorol, bendigedig a hunanddirnadol.