Mae Morus Needham yn dod o ardal Llangrannog, yn cyn-ddisgybl Ysgol Bro Teifi, ac yn gwneud prentisiaeth Lefel 2 Arwain Gweithgareddau ynNgwersyll Yr Urdd yn Llangrannog.  Cafodd Morus ei enwebu am Brentis Y Mis gan ei fod yn brentis cwrtais iawn sydd yn ddiolchgar am bob math o gymorth mae’n derbyn yn ystod ei brentisiaeth. Mae’n ymateb yn arbennig o dda i adborth er mwyn sicrhau bod ei waith o safon. Mae wedi setlo mewn yn dda i fywyd yn Llangrannog ac yn bob tro’n awyddus i helpu. Mae’n gwneud cynnydd da gyda’i waith cwrs a braf iawn oedd clywed adborth cadarnhaol amdano oddi wrth athrawon yn ddiweddar. Yn ystod gweithgaredd diweddar, cymerodd yr amser i holi am anghenion grŵp o blant a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael amser da. Dyma bach mwy o wybodaeth am Morus 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Roeddwn yn teimlo fel oeddwn i eisiau cael cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd dysgu sgiliau newydd. 

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth? 

Dwi yn mwynhau cwrdd â phobl newydd a chreu ffrindiau.  Rydw i hefyd yn hoffi'r cydbwysedd rhwng y gwaith cwrs a'r gweithgareddau yma . 

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti? 

Gallu cael gyrfa trwy gyfrwng y Gymraeg! 

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith? 

Mae rygbi yn ddarn mawr o fy mywyd dwi yn aelod yn Glwb Rygbi Castell Newydd Emlyn a dwi yn hoff iawn o wylio’r Scarlets. Rydw i hefyd yn hoffi treulio amser gyda fy nheulu a fy ffrindiau. 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Dwi yn teimlo yn llawer mwy hyderus na beth oeddwn i; mae fy sgiliau cyfathrebu wedi gwella llawer. 

Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Lythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?     

Mae datblygu fy sgiliau llythrennedd digidol wedi helpu llawer gan ei fod yn fy ngalluogi i gwblhau fy ngwaith cwrs.  Hefyd, mae datblygu fy sgiliau cyfathrebu wedi fy helpu i siarad â phobl mwy. 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Hoffwn weithio llawn amser yma yn Llangrannog.   

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau. 

Sicrhau bod cyfranogwyr yn ddiogel ac yn cael hwyl. 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair! 

Cymreictod, hwyl a phrofiadau. 

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?  

Gorffennais yn Ysgol Bro Teifi ym Mehefin 2024Roeddwn yn bwriadu mynd i’r coleg ond fe welais hysbyseb prentisiaeth yr UrddRoedd fy nghais yn llwyddiannus a dyma ble rydw i nawr. Yr her fwyaf yw fy oedran; rwy’n 16 mlwydd oed felly dydw i ddim yn gyrru a rwy’n gweld hi yn anodd gwneud pethau tu allan i’r gwaith heb orfod ddibynnu ar eraill.