‘Prentis y Mis’ - Ionawr 2018
Lauren Richards
Prentis Ail Flwyddyn, Ardal Pen-y-bont ar Ogwr
Cafodd Lauren ei eni a’i magu yn ardal Maesteg yng nghymoedd y de. Fe wnaeth mynychu Ysgol Llangynwyd ac fe lwyddodd i gwblhau ei lefelau A. Wrth feddwl am beth i wneud nesaf, roedd Lauren yn awyddus i chwaraeon fod yn rhan allweddol o’r cam nesaf ar ei llwybr gyrfa. Fe wnaeth Lauren ystyried mynd i’r Brifysgol, ond yn lle, ar ôl gweld hysbyseb yn chwilio am brentis chwaraeon yn ei hardal, penderfynodd drio am brentisiaeth gyda’r Urdd.
Ar ôl fynd drwy’r broses gwneud cais a chyfweld sylweddolodd Lauren, “bod yn gyfle da i weithio a derbyn profiadau.” Mae Lauren bellach wedi cwblhau ei blwyddyn gyntaf yn derbyn amryw o gymwysterau yn cynnwys NVQ Lefel 2 yn Arwain Gweithgareddau. Mae nawr ar ei hail flwyddyn yn gweithio tuag at NVQ Lefel 3 yn Datblygu Chwaraeon.
Mae Lauren yn gweithio fel rhan o Adran Chwaraeon yr Urdd ac wedi’i lleoli yn ôl yn ei hen ysgol, Ysgol Llangynwyd, ac mae’r brentisiaeth yn cael ei weithredu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Pen-y-bont. Mae hyn yn meddwl bod ei wyneb cyfarwydd hi yn gweithio fel llysgennad arbennig i’r Cynllun ac yn codi statws prentisiaethau yn yr ardal. Mae hefyd yn dangos i ddisgyblion yr ysgol bod yn bosib gwneud prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Lauren yn rhedeg nifer fawr o glybiau chwaraeon yn yr ardal ac yn ymfalchïo ei bod yn medru hybu’r iaith Gymraeg drwy gynyddu niferoedd plant a phobl ifanc sydd yn mynychu clybiau gyfrwng y Gymraeg.
Mae Lauren yn llysgennad anhygoel i’r Cynllun ac wedi ymddangos ar raglen Prynhawn Da yn ogystal ag eistedd ar banel lansio Miliwn o Siaradwyr gyda Phrif Weinidog Cymru a Chris Coleman. Mae Lauren yn awyddus i barhau i weithio yn y maes chwaraeon ar ôl gwblhau ei phrentisiaeth.