Sgwrs gyda Gwenllian Jenkins
PRENTIS Y MIS (awyr agored LEFEL 2) Mai 2020
Mae Gwenllian yn dod o Lanwnnen, Ceredigion ac fe wnaeth hi fynychu ysgol Bro Pedr yn Llambed cyn penderfynu ymgeisio i wneud prentisiaeth gyda’r Urdd yn Ngwersyll Llangrannog.
Pam wnaethost ti ddewis ymgeisio i wneud prentisiaeth gyda'r Urdd?
Gwelais i’r prentisiaeth fel cyfle i weithio yn yr awyr agored wrth ddatblygu sgiliau ac ennill amrywiaeth o hyfforddiant defnyddiol.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy brentisiaeth?
Mae hyn yn anodd gan ryw’n teimlo fy mod yn cael cymaint allon o gwneud y prentisiaeth. Bydde rhaid i mi ddweud y beth i fi’n mwynhau y mwyaf yw gweld plant sydd wir yn joio gwneud gweithgareddau newydd, efallai gawn nhw byth siawns i wneud eto. Mae’n teimlad sbeisal i feddwl bod y staff yn Llangrannog yn rhan o brofiadau efallai bythgofiadwy plant. (‘Honourable mention’ yn mynd i’r tirlun hollol godidog!)
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn i gael gweithio mewn amgylchedd sydd yn hybu’r Gymraeg fel mae’r Urdd yn gwneud. Mae rhedeg sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg, dim yn unig yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr defnyddio’i iaith, ond hefyd yn gwneud i mi deimlo’n fwy gyfforddus.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Ar y foment rydw i wrth fy modd yn cadw’n heini adref pa bynnag ffordd sydd yn gyfleus, yn aml rydw i yn sgipio, paffio, codi pwysau neu dawnsio.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Nid oedden i yn disgwyl i fy sgiliau rhifedd a llythrennedd datblygu gymaint tra yn gwneud y prentisiaeth. Rydw i yn priodoli fy ngwelliant yn y meysydd hyn i’r tasgau WEST rydw i yn cwblhau. Hyder i siarad o flaen pobl a thrafod, yw sgil arall roedden i yn obeithiol i wella cyn cychwyn ac rydw i yn teimlo bod hynny wedi digwydd.
Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.
Mae’r prentisiaeth yn cynnwys gwaith ymarferol fel gwneud tasgau cynnal a chadw, paratoi gweithgareddau fel eu bod yn barod i’w ddefnyddio a chynnal amrywiaeth o weithgareddau i grwpiau sydd yn ymweld â’r gwersyll. Yn ogystal â hyn, rydw i yn cwblhau tasgau ysgrifenedig ac ymarferol sy’n ymwneud â’r gwaith, er mwyn sicrhau fy mod yn dderbyn y prif gymhwyster erbyn diwedd y flwyddyn.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Hoffwn i barhau i weithio yn y maes awyr agored; nid wyf wedi penderfynu ar lwybr pendant eto.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Pleserus.
Heriol.
Gwerthfawr.