Sgwrs gyda Daniel Evans
Prentis y Mis, Mai 2022
Mae Daniel Evans yn dod o Fryn Iwan, ger Cynwyl Elfed. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, a bellach mae’n cwblhau prentisiaeth Arwain Gweithgareddau gyda’r Urdd. Dyma ychydig o’i hanes!
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Roeddwn i eisiau trio rhywbeth oedd yn wahanol i ysgol, felly roedd prentisiaeth Llangrannog wedi denu fy sylw.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Cwrdd â phobl newydd a gallu gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored yn ddyddiol!
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Rwy’n hoff iawn o allu gwneud prentisiaeth trwy siarad Cymraeg oherwydd, anaml cyn y flwyddyn yma roeddwn yn cael siawns i siarad Cymraeg.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Hoff o bêl droed a rygbi a mynd mas da’r bois!
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Rwy’n teimlo fy mod wedi ennill fwy o hyder i allu siarad gyda phobl newydd.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Dim syniad!
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Gwneud yn siŵr fod cyfranogwyr yn cael hwyl wrth wneud gweithgareddau a gwneud yn siŵr ei bod nhw’n ei wneud mewn ffordd ddiogel!
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Hwyl, Hyderus, Cyfleus!