Sgwrs gydag Ifan Thomas
Prentis Y Mis, Mai 2023
Mae Ifan Thomas yn dod o Bontyberem a mynychodd Ysgol Gynradd Pontyberem ac wedyn Ysgol Gyfun Maes Y Gwendraeth. Enwebwyd Ifan am Prentis y Mis oherwydd ei waith caled, yn cynnwys pawb ym mhob fforwm a gweithgaredd a llawer o bethau eraill. Mae Ifan yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 2 yn Arwain Gweithgareddau ac hefyd yn datblygu sgiliau Llythrennedd Digidol efo’r Hwb Sgiliau Hanfodol.
Pam wnes di benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Roedd yn gyfle da i weithio yn y byd chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am y brentisiaeth?
Rwy’n joio amrywiaeth y swydd, y clybiau, helpu yn y gwyliau chwaraeon, ac rwyf wedi cwrdd â lot o bobl newydd.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Mae’n grêt i allu gweithio a gweld plant yn joio chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n dangos bod modd gwneud chwaraeon yn Gymraeg.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Gwylio a chwarae pêl-droed, gwylio’r Scarlets, gwrando ar gerddoriaeth, mynd i’r gym, cymdeithasu a bwyta!
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae wedi rhoi hyder i fi, gwella fy sgiliau Cymraeg ac wedi fy helpu i benderfynu fy mod i eisiau mynd i weithio ym myd addysgu.
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau Llythrennedd Digidol wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?
Rwy’n cysylltu gyda rhieni ac athrawon dros e-bost a negeseuon testun, rwy’n cyfrannu at y fforwm prentisiaid. Hefyd, mae fy sgiliau rhifedd yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod yr un faint o blant gyda fi ar ddechrau a diwedd bob sesiwn!
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Rwyf wedi cael lle yn y brifysgol i astudio addysg gynradd, felly mewn 3 blynedd byddai’n chwilio am swydd dysgu!
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Arwain sesiynau chwaraeon mewn ysgolion ar draws y sir, helpu mewn clybiau gwyliau chwaraeon, a gwneud gwaith cwrs!
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Lot o hwyl!
Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?
Fe wnes i gais am brentisiaeth oherwydd ‘mod i eisiau cymryd blwyddyn allan cyn mynd i’r brifysgol. Doeddwn i ddim yn siŵr beth o’n i eisiau gwneud, felly mae eleni wedi bod yn brofiad ffantastig, ac wedi fy helpu i sylweddoli fy mod i eisiau mynd i ddysgu! Roedd y trip i Ddulyn yn brofiad arbennig. Mae’r profiadau wedi bod yn grêt hyd yn hyn, ac rwy’n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle.