Cafodd Owain ei fagu ym mhentref Llanbedr Dyffryn Clwyd, tu allan i Rhuthun yn Sir Ddinbych. Mynychodd Ysgol Pen Barras ac wedyn Ysgol Brynhyfryd. Mae Owain yn gweithio i‘r Urdd fel prentis Datblygu Chwaraeon hefo’r tîm Digwyddiadau a hefyd y tîm Chwaraeon. Cafodd ei enwebu am ei frwdfrydedd ac ei waith da cyson. Dyma olwg sydyn ar sut mae prentisiaeth Owain yn mynd....
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Mi wnes i benderfynu gwneud prentisiaeth gyda’r Urdd gan ei fod yn cynnig llawer o gyfleoedd, cyfleusterau a phrofiadau gwahanol yn ogystal â datblygu gwahanol sgiliau. Mae’r Urdd wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd wrth i mi gystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon ac eisteddfodau ac felly rydw i wastad wedi bod yn awyddus i weithio i’r Urdd.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Ers cychwyn fy mhrentisiaeth, rydw i wedi mwynhau'r cyfarfod llawer o bobl o mannau gwahanol o Gymru ac wedi gwneud llawer o ffrindiau. Rydw i hefyd wedi mwynhau teithio o gwmpas Cymru i wneud cystadlaethau rhanbarthol a cenedlaethol, yn ogystal â mynd i’r gwersylloedd i’r gweithdai.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Gan fy mod wedi cael fy magu mewn cymuned Cymraeg, mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng Gymraeg yn bwysig iawn i mi gan fy mod yn gallu annog a dylanwadu’r genhedlaeth newydd i siarad Cymraeg.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Yn fy amser rhydd, rydw i yn hoff o chwarae a gwylio pêl-droed, yn chwarae i dîm Cymraeg Cymric yng Nghaerdydd, ac yn cefnogi Lerpwl gan fynd i Anfield i wylio bob hyn a hyn. Hefyd, rydw i’n hoff iawn o gymdeithasu hefo teulu a ffrindiau.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae gwneud y brentisiaeth wedi datblygu llawer o fy sgiliau personol i e.e. cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau. Yn bennaf, credaf fod fy hyder wedi datblygu a fy sgil creadigol wedi datblygu ar ôl gwneud llawer o ddigwyddiadau a chlybiau gwahanol.
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Llythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?
Mae datblygu fy sgiliau rhifedd wedi bod yn hanfodol yn fy mhrentisiaeth, gan fy ngalluogi i ddadansoddi data, rheoli cyllidebau, a deall cyfrifiadau. Mae sgiliau cyfathrebu cryf wedi hwyluso cydweithio effeithiol gyda chydweithwyr a chyfleu syniadau clir.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Ddim yn siŵr ar hyn o bryd. Ar y funud rydw i’n awyddus aros yng Nghaerdydd ond efallai mynd yn nol i’r gogledd mewn ychydig flynyddoedd.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Gan fod i’n rhan o’r tîm digwyddiadau yn ogystal â’r tîm cymunedol mae gennai llawer o ddyletswyddau pwysig. Mae gofyn i mi wneud ychydig o glybiau ar ôl ysgol a cymunedol ar fore Sadwrn. O fewn y tîm digwyddiadau, rydw i’n cael cyfleoedd i deithio Cymru i helpu allan gyda nifer o ddigwyddiadau gwahanol.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Hwylus, Buddiol, Profiadol
Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?
Fel rhan o fy tair mlynedd yn y brifysgol lawr yng Nghaerdydd, un o’r heriau fwyaf oedd cwblhau arholiadau flwyddyn olaf yn y brifysgol. Ar ôl i mi gwblhau fy ngradd, roeddwn yn awyddus i ddarganfod swydd oedd yn ymwneud a chwaraeon er mod i wedi gwneud gradd mewn rhywbeth gwahanol. Credaf fod y prentisiaeth yma wedi galluogi i mi i wneud rhywbeth rydw i’n ei fwynhau yn ogystal a dysgu llawer o sgiliau gwahanol, felly rydw i yn ddiolchgar iawn am hyn.