Prentis y Mis - Mawrth 2019
Darcy French
‘Hwylus, manteisiol a chyffrous!’
Mae Darcy yn brentis chwaraeon yn ei hail flwyddyn yn ardal Rhondda Cynon Taf. Fe gychwynnodd yn y Brifysgol, ond doedd hi ddim yn mwynhau ei hun. Clywodd am brentisiaethau’r Urdd a phenderfynodd ymgeisio!
“Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth roeddwn i’n mwynhau, sef chwaraeon. Roeddwn yn awyddus i helpu dylanwadu a gwella cyfleoedd plant fy ardal.
Dwi wastad wedi teimlo’n gryf dros yr iaith Gymraeg, felly roeddwn eisiau sicrhau bod y plant yn derbyn cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y peth gorau am fy mhrentisiaeth yw medru dysgu sgiliau newydd, cael cymwysterau a phrofiad mewn chwaraeon gwahanol doeddwn i byth yn meddwl byddai, e.e nofio a gymnasteg. Dwi hefyd yn mwynhau gweld y plant yn dysgu sgiliau newydd a'u gweld yn mwynhau yn ein clybiau a sesiynau.
Mewn tri gair, mae fy mhrofiad o wneud prentisiaeth wedi bod yn hwylus, manteisiol a chyffrous!"
Yn ei hamser sbâr mae Darcy yn mwynhau cymdeithasu gyda’i ffrindiau. Mae hi hefyd yn gweithio i Women’s Aid, sef elusen sy’n helpu menywod mewn angen. Ar ôl iddi orffen ei phrentisiaeth, mae Darcy’n gobeithio defnyddio ei phrofiadau a’i chymwysterau i gael swydd llawn amser yn y byd chwaraeon.