Sgwrs gyda Tiffany Colton Edwards
Prentis y Mis, Mawrth 2023
Mae Tiffany o Gaernarfon ac wedi mynychu Ysgol Syr Hugh Owen. Mae Tiffany yn brentis trwy’r Urdd ar gwrs Gofal Plant Lefel 3 wedi ei leoli yng Nghylch Meithrin Seiont a Pheblig ac yn gweithio tuag at gwblhau sgiliau hanfodol rhifedd a chyfathrebu gyda’r adran HWB Sgiliau Hanfodol. Dyma gipolwg ar fywyd Tiffany:
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda’r Urdd?
I gael gweithio tuag at fy lefel 3 i! Mae’n ffordd dda o weithio tuag at fy nghymhwyster wrth weithio.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?
Rwyf yn mwynhau gweithio un i un ac yn mwynhau gweithio efo phawb. Rydw i'n mwynhau gweithio gyda phlant.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Rydw i'n hoffi gwrando ar gerddoriaeth a mynd am dro!
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae gwneud y brentisiaeth wedi helpu fi i fod yn fwy hyderus.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Dwi’n gobeithio cael gweithio mewn ysgol.
Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.
Rydw i’n gweithio efo’r plant yn y Meithrin ac un o fy mhrif ddyletswyddau yw neud yn siŵr bod y plant yn saff yn y gweithle ac yn cael y diwrnod gorau!
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth mewn 3 gair!
Mwynhau, Mwynhau, Mwynhau!