Mae Poppy yn brentis Arwain Gweithgareddau Lefel 2 ac yn dod o Wrecsam. Wnaeth hi fynychu Ysgol Gynradd Bodhyfryd ac Ysgol Morgan LlwydMae Poppy wedi cael i enwebu am fod yn brentis weithgar iawn ac yn cydwybodol i awn o rhan y llwyth gwaith sydd ganddi. Mae hi o hyd yn cyflwyno gwaith ar amser ac o safon uchel iawn. Mae Poppy yn gweithio yn dda iawn o fewn gweithdai ac yn cyfrannu mewn sgyrsiau agored yn dda. Mae’n braf gweld sut mae hyder Poppy wedi datblygu ers cychwyn y prentisiaeth ac rwy’n fawr obeithio iddi aros ar gyfer y lefel 3. Mae cynnydd Poppy yn arddangos ei frwdfrydedd tuag at ei gwaith.   

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Mi roeddwn i’n awyddus iawn i gychwyn her newydd ac i weithio yn y byd chwaraeon. 

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth? 

Dwi’n mwynhau helpu ac arwain mewn sesiynau chwaraeon mewn ysgolion/clybiau ac yn hoffi gweld ein cyfranogwyr yn mwynhau ac yn datblygu. 

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti? 

Dwi’n hynod o falch fy mod i’n cael y cyfle i hybu’r iaith Gymraeg ac yn cael defnyddio’r iaith bob diwrnod yn y gwaith. Credaf ei fod yn hollbwysig bod cyfleoedd i gyfranogi trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog yn cael eu cynnig i blant a phobl ifanc ac yn falch iawn ein bod ni’n medru gwneud hyn. 

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith? 

Tu allan i’r gwaith dwi’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau. Dwi hefyd yn gefnogwr enfawr o bel droed merched ac yn cefnogi Wrecsam a Chymru. 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio’n fawr ar fy natblygiad personol i. Does dim dwywaith fy mod i wedi datblygu fy hyder a fy nealltwriaeth o amrywiaeth o chwaraeon gwahanol yn fawr iawn (a dal i ddatblygu!) 

Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Llythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth? 

Dwi’n parhau i ddatblygu ac ail-atgoffa fy hun o sgiliau rhifedd a chyfathrebu trwy gwblhau fy ngwaith cwrs a tasgau ar WEST. Dwi wedi dysgu llawer o ran llythrennedd digidol wrth ddefnyddio rhaglenni newydd ar y cyfrifiadur ers cychwyn ac yn parhau i ddysgu! Mae datblygu’r sgiliau yma wedi cyfrannu’n fawr tuag at fy mhrentisiaeth oherwydd maent yn sgiliau dwi’n defnyddio bob diwrnod ac yn datblygu o hyd. Dwi’n defnyddio fy sgiliau rhifedd wrth helpu cyfrifo niferoedd cyfranogwyr ac offer ar gyfer sesiynau a sgorio mewn cystadlaethau; dwi’n defnyddio fy sgiliau cyfathrebu yn ystod sesiynau ac wrth siarad gydag ysgolion a hyfforddwyr eraill a dwi hefyd yn defnyddio fy sgiliau llythrennedd digidol wrth gwblhau a chyflwyno gwaith cwrs mewn ffyrdd gwahanol ac wrth anfon e-byst a chyfathrebu dros Teams. 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth lefel 2, gobeithiaf gychwyn prentisiaeth lefel 3. 

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau. 

Rhai o fy nyletswyddau yw helpu/arwain mewn sesiynau yn ystod amser ysgol, ar ôl ysgol ac mewn clybiau cymunedol, helpu mewn cystadlaethau, helpu cysylltu gydag ysgolion a chanolfannau hamdden i drefnu gweithgareddau a chwblhau gwaith cwrs/mynychu gweithdai a chyrsiau. 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair! 

Diddorol, prysur, hwyl! 

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?  

Wrth astudio yn yr ysgol, sylweddolais fy mod i eisiau herio fy hun mewn ffordd newydd. Pan welais y cyfle i gychwyn prentisiaeth, roedd hyn yn apelio’n fawr ata i gan fy mod efo diddordeb mawr yn y byd chwaraeon ac yn awyddus i weithio yn y maes. Dwi’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd dwi’n eu derbyn ac yn mwynhau’r profiad.