Mae Bethan yn dod o Gastell Newydd Emlyn, aeth i Ysgol Gyfun Emlyn ac mae hi bellach yn gweithio yng Nghylch Meithrin Teifi.  Cafodd Bethan ei henwebu ar gyfer Prentis y Mis am ei hymrwymiad i ddysgu.  Dywedodd Ceris Rees, Arweinydd y Cylch, "Mae Bethan yn gweithio'n annibynnol ac mae'r cwrs wedi rhoi'r hyder oedd ei angen arni."

Pam wnaethoch chi ddechrau ar eich prentisiaeth gyda'r Urdd?

Rydw i wedi gweithio yng Nghylch Meithrin Teifi dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae fy Arweinydd Meithrin (Ceris Rees) a minnau wedi edrych ar nifer o gyrsiau Gofal Plant gwahanol ond doedd yr un ohonynt yn gallu gweithio o gwmpas fy swydd a bywyd prysur adref. Pan dderbyniodd Ceris e-bost ynglŷn â'r brentisiaeth hon, roedd yn berffaith i mi.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich swydd a sut mae'r brentisiaeth wedi effeithio ar eich gwaith?

Rwyf wrth fy modd yn treulio amser gyda'r plant rydym yn gofalu amdanynt. Mae eu gweld yn gwenu, chwerthin a mwynhau eu hamser yn y Meithrin yn rhoi boddhad mawr i mi o fewn fy swydd. Mae'r brentisiaeth wedi fy helpu i fagu cymaint o hyder yn fy rôl a gwella fy nealltwriaeth o ddatblygiad plant a hefyd deall sut maen nhw'n dehongli pethau, sydd yn ei tro yn cyfrannu at weithgareddau cynllunio a hefyd sut rydw i'n ymateb i'r plant.

Beth mae cwblhau eich prentisiaeth yn Gymraeg/ddwyieithog yn ei olygu i chi?

Cymraeg yw fy ail iaith ac mae cennai ddiffyg hyder, yn enwedig wrth ysgrifennu yn y Gymraeg. Mae’r gallu i gwblhau'r cwrs yn ddwyieithog wedi bod yn hollol wych. Dwi'n falch iawn o fod yn Gymraeg ac maen fraint gallu siarad dwy iaith.

Beth yw eich diddordebau y tu allan i'r gwaith?

Rwyf wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nheulu - mae gen i fab 11 oed, merch 8 oed, dyweddi a chi bach. Rydym yn cael noson ffilm wythnosol gyda llawer o fyrbrydau a cwtch mawr. Rydym hefyd yn cerdded y ci yn aml, ag er bod y plant yn hoffi cwyno am hyn, maen nhw'n yn ei mwynhau.

Ym mha ffordd mae eich prentisiaeth wedi cyfrannu at eich datblygiad personol?

Rydw i wedi magu cymaint o hyder yn fy ngwaith. Mae fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o fy rôl wedi gwella'n fawr o ran diogelu, pwysigrwydd bod yn gynhwysol a hefyd iechyd a lles y plant.

Beth ydych chi'n gobeithio ei wneud ar ôl eich prentisiaeth?

Hoffwn barhau i weithio yng Nghylch Meithrin Teifi, yn gwneud y gwaith rwy'n ei fwynhau gymaint.

Disgrifiwch eich dyletswyddau.

Fy nyletswyddau yw diogelu, gofalu am a helpu i ddatblygu plant cyn oed ysgol, o fewn trefniant arferol/amgylchedd ysgol. Rwyf hefyd yn helpu i gynnal amgylchedd glân a diogel o fewn y gweithle i bawb ei fwynhau.

Disgrifiwch eich profiad mewn 3 gair.

Cyfforddus, cyfleus a gwerth chweil.

Hoffech chi ychwanegu unrhyw beth at eich stori?

Mae fy Aseswr Sonia, a fy Arweinydd Cylch Meithrin Ceris, wedi bod yn wych ac rwyf mor ddiolchgar i'r ddau ohonynt. Hoffwn yn fawr iawn iddynt gael eu crybwyll i gydnabod yr holl gymorth, cefnogaeth ac anogaeth y maent wedi'u rhoi i mi yn ystod fy mhrentisiaeth.