PRENTIS Y MIS - MAWRTH 2018
Lowri Jones
Cafodd Lowri ei eni a’i magu ym mhentref Bethel, Eryri. Ers pan oedd yn fach roedd gan Lowri diddordeb mewn chwaraeon a chadw’n heini, yn enwedig rhedeg a dawnsio. Mae hyn wedi cael effaith mawr ar benderfyniadau Lowri ynglŷn â’i yrfa. Fe wnaeth Lowri fynychu Ysgol Bethel ac yna Ysgol Brynrefail a llwyddodd i gwblhau ei lefelau A. Roedd Lowri’n awyddus iawn i weithio yn y sector chwaraeon ac ymchwiliodd i mewn i astudio chwaraeon yn y Brifysgol. Er hynny, nid oedd Lowri’n teimlo fod mynd i’r Brifysgol yn iawn iddi hi ac fe benderfynodd ymgeisio ar gyfer Cynllun Prentisiaeth yr Urdd.
Roedd y syniad o allu cychwyn yn y byd gwaith yn syth o’r ysgol a derbyn hyfforddiant yn apelio’n fawr i Lowri. Erbyn i Lowri ymgeisio ar gyfer Cynllun Prentisiaeth yr Urdd, roedd Lowri wedi bod yn hyfforddi dawns am 4 mlynedd. Roedd Lowri hefyd wedi gwirfoddoli yng nghlybiau chwaraeon yr Urdd ac felly wedi cael blas ar y fath o brofiadau sydd ar gael gyda’r cynllun. Cafodd Lowri ei magu yng nghartref lle Cymraeg oedd y brif iaith, ac roedd yn bwysig iawn i Lowri medru defnyddio’r iaith yn ei gwaith bob dydd. Roedd hyn yn rheswm ychwanegol i Lowri fod yn rhan o Gynllun Prentisiaeth yr Urdd. Mae Lowri yn ymfalchïo yn y faith ei bod yn medru darparu sesiynau chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc.
“Dwi’n hoffi rhoi cyfle i blant cymryd rhan mewn gwahanol chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n dda gweld plant yn datblygu fel unigolion.”
Mae Lowri yn gweithio fel Prentis i Adran Chwaraeon yr Urdd yn ardal Eryri. Gan mai dyma’r ardal lle chafodd Lowri ei magu, mae’n medru meithrin perthnasau gwerthfawr gyda’r gymuned leol yn hawdd a gallwn gweld hyn yn safon uchel y clybiau mae Lowri yn eu cynnal. Mae Lowri wedi cwblhau ei blwyddyn gyntaf fel rhan o Gynllun Prentisiaeth yr Urdd ac wedi llwyddo i ennill NVQ Lefel 2 yn Arwain Gweithgareddau. Mae nawr yn ei hail flwyddyn ac wedi datblygu’n fawr. Mae Lowri yn gyffyrddus yn rhedeg amryw o sesiynau ar ei phen ei hun ac yn astudio at NVQ Lefel 3 yn Datblygu Chwaraeon. Mae’r profiadau y mae Lowri wedi derbyn trwy fod yn rhan o Gynllun Prentisiaeth yr Urdd wedi cadarnhau iddi ei bod am barhau gyda gyrfa yn y sector chwaraeon.
“Rwyf yn gobeithio parhau mewn swydd Hyfforddi Chwaraeon, oherwydd mae gen i ddiddordeb mawr yn gwneud hyn ac rwyf yn mwynhau cynnal sesiynau i blant a phobl ifanc.”