Mae Heledd yn wreiddiol o Ystalyfera, cyn disgybl Ysgol Gyfun Ystalyfera. Mae Heledd yn brentis Gwaith Ieuenctid ac yn gweithio yn ardal Y Fro, mae hi wedi cael i enwebu am ymrwymo’n llawn yn y cynllun ac yn creu cyfleoedd diddorol a phwysig yn yr ysgolion mae hi’n gweithio efo.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Er mwyn cael datblygiad personol a proffesiynol yn y maes ieuenctid. Mae’n helpu datblygu sgiliau addas er mwyn gweithio gyda phobl ifanc mewn ffordd effeithiol.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Rwy’n mwynhau gwneud gweithdai gwahanol sy’n fy annog i ddysgu sgiliau ac i wneud rhywbeth gwahanol mewn diwrnod gwaith.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Mae prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn oherwydd mae’n rhoi cyfle i wneud cwrs trwy’r iaith sydd yn fwyaf cyfforddus i mi. Mae’n dda i roi’r cyfle teg i bobl o bob cefndir.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Dwi’n hoffi chwarae pêl-droed a gwylio pêl-droed. Dwi’n hoffi mynd i wylio tîm Pêl-droed Abertawe yn aml. Dwi hefyd yn hoffi treulio amser gyda ffrindiau a’r teulu.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae hi wedi fy ngwneud yn fwy hyderus wrth weithio gyda phobl ifanc a sut ddelio gydag unrhyw fater gwaith ieuenctid sy’n codi wrth weithio.
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Llythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?
Mae datblygu sgiliau rhifedd wedi fy helpu yn y gwaith prentisiaeth ac yn waith ieuenctid, megis trwy gyfrifo data a chyfrifo cyfartaledd staff. Mae Llythrennedd Digidol hefyd wedi datblygu sgiliau addas ar gyfer y gwaith, megis creu pwyntiau pŵer a chyfryngau cymdeithasol.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Dwi’n gobeithio parhau i weithio gyda phobl ifanc a defnyddio'r sgiliau o’r brentisiaeth ac ymarfer hynny o fewn fy ngwaith.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Fy nyletswyddau i yn bennaf yw bod yn gyfrifol am ofal y bobl ifanc. Dwi hefyd yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau, fel teithiau, clybiau, a gweithdai.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Hwyl, profiadau, grymusol
Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?
Dwi’n gweithio fel swyddog ieuenctid nawr ac yn gwneud y brentisiaeth ar ôl graddio ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn awyddus i weithio gyda phobl ifanc. Yr her fwyaf yn y gwaith yw sut drefnu fy amser ar gyfnodau prysur oherwydd bod amryw o ddigwyddiadau i redeg a threfnu ar yr un pryd. Mae gwneud hyn ar y cyd gyda gwneud gwaith prentisiaeth yn her, ond hefyd yn brofiad da.