O ble ti’n dod?  

Rwyf yn dod o Arberth yn Sir Benfro. 

I ba ysgol wnaethost ti fynychu? 

Wnes i fynd i Ysgol Gynradd Arberth ac wedyn mynd lan i Ysgol Y Preseli yng Nhgrymych. 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?  

Penderfynais i wneud y brentisiaeth chwaraeon gyda’r Urdd achos dwy yn hoffi chwaraeon ac yn cadw yn actif. 

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?  

Y peth mwyaf rwyf yn mwynhau am fy swydd yw gweithio efo plant da anghenion arbennig a’u gwylio’n cyflawni pethau nad ydynt yn credu bod nhw gallu ei wneud. Rydw i’n meddwl bod sgiliau hanfodol wedi effeithio fy swydd achos rwyf yn mor hyderus o siarad o flaen y dosbarth. 

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth ddwyieithog yn meddwl i ti? 

Mae wedi rhoi llwyfan i fi i ymarfer ysgrifennu yn y Gymraeg gan nad wyf wedi cael yr opsiwn yn y gorffennol oddi ar i fi  gadael yr ysgol. 

Sut mae gwneud y brentisiaeth wedi datblygu dy sgiliau Cymraeg?  

Rwy’n rhugl yn y Gymraeg ond mae wedi rhoi’r llwyfan i mi ymarfer.  

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?  

Fy niddordebau fi tu allan o’r gwaith yw cerdded, darllen ac yn treulio amser efo fy nheulu. 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?  

Rwyf yn teimlo mor hyderus yn siarad o flaen dosbarth ac yn wneud gwersi ymarfer corff.  

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu parhau i redeg sesiynau ymarfer corff sydd ar gael i bob gallu. 

Disgrifia yn fras dydd dyletswyddau.  

Fy nyletswyddau fi yw helpu’r plant efo’r gwaith. Hefyd yn annog y plant i gyfathrebu efo’i gilydd ac efo’r staff. Mae’n hefyd na i helpu’r plant paratoi ar gyfer gweithgareddau fel Ymarfer corff. 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair 

Hapus 

Cyffrous  

Falch efo fy hun 

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?  

Rwyf yn jyst hapus iawn efo sut mae’r gwaith yn mynd. Gan ddefnyddio'r we i ymchwil wedi helpu llawer.