Fe wnaeth Jordan o Faesteg, mynychu ysgol Cynnwyd Sant ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd. Bellach, mae Jordan yn brentis chwaraeon i’r Urdd yn ardal Pen-y-bont.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Roeddwn eisiau gwneud y brentisiaeth er mwyn gwella fy sgiliau hyfforddi ac i annog plant a phobl ifanc i wneud chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Rwy’n mwyhau’r elfen o gwrdd â nifer o bobl newydd sy’n gweithio yn y sector chwaraeon. Rwyf hefyd yn mwynhau fy mod yn helpu gyda hyder plant i fwynhau cymryd rhan ym mhob math o chwaraeon gwahanol.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Rwy’n caru fy mod i’n cyfrannu i gael plant a phobl ifanc yng Nghymru i gymryd rhan mewn chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Rwy’n person actif a brysur iawn! Mae wastad gennyf rhywbeth ymlaen gyda’r nos, o ymarfer, derbyn hyfforddiant a chwarae gwahanol gemau chwaraeon!
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Rwy’n gobeithio cael swydd neu cyfle i weithio yn y sector chwaraeon er mwyn gwella a ddatblygu chwaraeon dros Cymru.
Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.
Rwy’n rhedeg sesiynau chwaraeon i blant o oedrannau 3-18 drwy’r wythnos mewn amryw o wahanol chwaraeon ac yn caru gwneud!
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Mwynhad , Datblygiad a Buddiol.