Mae Ela Roberts yn dod o Fangor, ac fe wnaeth mynychu Ysgol gynradd Garnedd ac yna Ysgol Uwchradd Tryfan. Bellach, mae Ela bron a gorffen ei blwyddyn yn gwneud Prentisiaeth Arwain Gweithgareddau gyda’r Urdd. Dyma ychydig o’i stori...
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Roeddwn wedi gwirfoddoli mewn sesiynau chwaraeon i’r Urdd am ddwy flynedd pan yn gwneud fy Lefel A, ac mi wnes i fwynhau yn arw, felly roeddwn yn meddwl ei fod yn syniad da, ac yn brofiad y byswn yn ei fwynhau
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Rwy’n mwynhau’r amrywiaeth sy’n dod gyda’r swydd o ran y chwaraeon gwahanol yn ogystal â gweithio gyda phlant a phobl o gefndiroedd ac oedrannau gwahanol yn ddyddiol. Rwy’n hoff fod bob dydd mwy na lai yn wahanol a nad ydw i’n gwybod beth i’w ddisgwyl. Mae gweithio gyda thîm o bobl cefnogol ac hwyl yn sicr yn rhan bwysig o’r swydd.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf i mi, ac rwy’n teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus wrth ddefnyddio’r iaith Gymraeg, felly mae cael swydd ble caf ddefnyddio’r iaith Gymraeg drwy’r dydd bob dydd yn grêt ac yn sicr yn un o’r rhesymau pan rwyf wedi’i fwynhau cymaint blwyddyn yma.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Rwyf wastad wedi mwynhau cadw’n heini mewn rhyw ffordd neu gilydd- boed hynny’n chwaraeon tîm felly pêl-rwyd neu hoci yn ogystal a chwaraeon unigol felly nofio a mynd i’r gampfa. Rwyf hefyd yn hoff iawn o wylio ‘documentaries crime’ a rhaglenni dirgelwch ar netflix gyda’r nos ac ar hyn o bryd yn gwneud y mwyaf o ‘disney plus’ ac yn ei fwynhau yn arw!
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Dwi’n meddwl bod cynnal sesiynau ar ben fy hun a siarad o flaen torf o bobl yn sicr wedi gwella fy lefelau hyder, ac rwyf nawr yn gallu siarad o flaen criw o bobl yn llawer fwy rhwydd.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
ymm cwestiwn da... dwi ddim yn hollol siŵr ar hyn bryd, ond mae gennyf ddiddordeb mawr mewn iechyd meddwl felly mae mynd i brifysgol i astudio Nyrsio Iechyd Meddwl neu Seicoleg yn sicr yn opsiwn yn y dyfodol.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Mae ein dyletswyddau yn newid yn wythnosol, ond yn fras, rydym yn cynnal o leiaf 2 sesiwn chwaraeon y diwrnod, boed hynny mewn ysgol neu gyda’r nos. Rydym yn delio gydag arian yn ogystal a trefnu sesiynau a sgyrsiau gydag ysgolion.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Hwyl, newydd, profiad!