Sgwrs gyda Tamara O'Leary
Prentis Y Mis, Mehefin 2023
Mae Tamara yn brentis Cefnogi Dysgu ac Addysgu Mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol yn Ysgol Portfield yn Hwlffordd, Sir Benfro. Mae Ysgol Portfield yn darparu addysg i bobl ifanc efo anghenion arbennig. Mae Tamara yn mwynhau ei waith yn fawr iawn ac wedi elwa o ddatblygu ei chyfathrebu trwy’r cwrs sgiliau hanfodol. Roedd Tamara wedi cael ei enwebu ar gyfer Prentis y Mis am fod yn weithgar tu hwnt ac yn barod i ddysgu pethau newydd ac ymrwymo’n llwyr – hyd yn oed os yw allan o beth mae’n hyderus yn gwneud.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Rydw i’n hoffi chwaraeon a bod yn actif. Rydw i’n teimlo’n angerddol iawn bod pawb yn gallu cymryd rhan mewn un ffordd neu’r llall.
Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Llythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth?
Rydw i’n teimlo’n mor hyderus pan rydw i’n siarad Cymraeg ac rydw i’n teimlo mor hyderus pan rydw i’n ysgrifennu fy ngwaith prentisiaeth.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae ymgymryd â Sgiliau Hanfodol wedi effeithio ar dy swydd?
Rydw i wrth fy modd yn gweithio’n Ysgol Portfield, rydw i’n teimlo’n freintiedig i weithio gyda disgyblion yn yr ysgol. Rydw i’n meddwl bod sgiliau hanfodol wedi effeithioar fy swydd achos rydw i’n teimlo’n mor hyderus i siarad yn y Gymraeg i’r disgyblion yn yr ysgol sy’n siarad Cymraeg nawr.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Rydw i’n gobeithio byddai’n gwneud mwy o fy waith trwy’r Cymraeg yn y dyfodol
Ym mha ffordd mae gwneud Sgiliau Hanfodol fel rhan o dy brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Rydw i’n teimlo’n mor hyderus.