Mae Amelia yn dod o Fargoed a wnaeth hi fynychu Ysgol Gilfach Fargoed ac wedyn ymlaen i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae Amelia yn brentis Datblygu Chwaraeon Lefel 3 ac yn gweithio yn ardal Gwent.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Mae’r Urdd wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd i ers i fi fod yn ifanc, o gystadlu yn nifer o gystadlaethau pan oeddwn i yn Ysgol, mynychu a’r Eisteddfod yn flynyddol, yn ogystal â gwirfoddoli yng Nghlybiau o fewn y rhanbarth. Mae’r Urdd yn cynnig nifer fawr o gyfleodd a phrofiadau gwahanol o fewn y brentisiaeth lle allwch ddatblygu llond llaw o sgiliau gwahanol yn ddyddiol o fewn eich gwaith, ac felly penderfynais neud Prentisiaeth ar sail hon.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Fel rhan o fy mhrentisiaeth, rwyf yn hoff iawn o redeg nifer o glybiau gwahanol, gan gynnwys clybiau ysgol yn ogystal â chlybiau cymunedol. Mae pob clwb wastad yn wahanol ac felly’n brofiadol iawn wrth weld nifer o blant ddatblygu sgiliau gwahanol o fewn sesiynau gwahanol. Ar ben hon, fy hoff ran fydd ein cystadlaethau rhanbarthol a cenedlaethol, rwy’n licio gweld yr elfen gystadleuol wrth i blant cynrychioli eu hysgol ac felly’n joio’r cystadlaethau yma.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Wrth dyfu fyny o fewn gymuned Gymraeg, mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig i mi, ac rwyf yn hynod o ddiolchgar gael y cyfle i allu parhau i ddefnyddio’r iaith yn ddyddiol o fewn fy ngwaith. Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn derbyn cyfleoedd i allu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ac felly rwyf yn falch iawn fod ein sefydliad yn gallu darparu hon.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
O fewn fy amser rhydd tu allan i waith, rwyf yn hoff iawn o gymdeithasu hefo fy nheulu a ffrindiau. Yn ogystal â hon, rwyf yn licio chwarae a gwylio nifer o chwaraeon gwahanol yn enwedig Pêl-droed a Phêl-rwyd. Rwyf yn chwarae pêl-droed i Glwb Cascade ac yna yn Chwarae a hyfforddi'r chwaraewyr ifanc yng nghlwb pêl-rwyd Gilfach.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Ers dechrau fy mhrentisiaeth, credaf fy mod i wedi datblygu nifer o sgiliau gwahanol yn enwedig fy hyder i allu arwain sesiynau creadigol yn ddyddiol.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Hoffwn barhau i ddatblygu fy nealltwriaeth a sgiliau o fewn y sector yma.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Fel rhan o fy rôl i mae disgwyl i mi allu rhedeg clybiau hwyl a creadigol i blant o fewn ein clybiau ysgol yn ogystal â chlybiau cymunedol. Yn ogystal â hyn mae angen i fi helpu yn cystadlaethau rhanbarthol a cenedlaethol.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Gwobrwyol, Profiadol, Buddiol
Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?
Mae’r brentisiaeth yma wedi galluogi mi i barhau fy addysg o fewn sefydliad chwaraeon yn ogystal â galluogi mi i ddatblygu nifer fawr o sgiliau gwahanol ac felly rwyf yn ddiolchgar iawn am y cyfle yma.