PRENTIS Y MIS - RHAGFYR 2018
Connor Owen
‘Dwi’n teimlo fy mod i ar y trywydd cywir.’
Mae angerdd mawr wastad wedi bod gan Connor at chwaraeon, yn enwedig pêl droed. Roedd ganddo obeithion mawr i fod yn chwaraewr proffesiynol, ond pan na ddigwyddodd hwn roedd yn amlwg i Connor bod angen iddo ffeindio gyrfa sy’n ymwneud â’r gêm.
Cafodd Connor ei eni yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin a chafodd ei fagu yn Crosshands cyn mynychu Ysgol Maes y Gwendraeth.
Mae Connor nawr yn gweithio fel prentis chwaraeon i’r Urdd yn ardal Llanelli. Mae’n cael cyfle i deithio o gwmpas yr ardal yn darparu gweithgareddau a chlybiau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Connor yn mwynhau gallu gweithio canran uchel o’i amser yn yr awyr agored ac yn gallu cadw pêl-droed fel rhan o’i waith pob dydd.
“Mae cael y cyfle i gael profiad o weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i agor drysau i mi yn y dyfodol.”
Mae’n teimlo bod y brentisiaeth wedi ei drawsffurfio o ‘lazy teeenager’ i unigolyn cyfrifol, cydwybodol a hyderus.
Hoffai Connor i barhau i weithio yn y sector chwaraeon ac mae hefyd yn awyddus i ymchwilio mewn i waith newyddiaduriaeth chwaraeon. Mae Connor yn cael ei ysbrydoli gan ei Dad-cu oedd yn chwaraewr a hyfforddwr drwy gydol ei fywyd, ac felly mae hyn yn rhoi ysfa i Connor i barhau i weithio’n galed a datblygu mewn i unigolyn cyflogadwy.