Hannah Jones o Fangor, Gwynedd, yw ein Prentis y Mis olaf am 2024. Mae Hannah wedi cael ei enwebu am gwblhau’r elfen craidd o’i chwrs ac am weithio yn ffantastig yn annibynnol. Mae hi wedi llwyddo mewn prawf yn ddiweddar, wedi cyflawni arsylwadau gwych, yn dangos ymarfer da hefo’r plant a chydweithio effeithiol hefo staff eraill.
Mae Hannah yn gweithio ym Meithrinfa Ffalabalam, Bangor, a dyma oedd gan ei rheolwr i ddweud: “Mae Hannah yn weithiwr caled ac yn dda iawn hefo'r plant i gyd. Unwaith yr wythnos mae hi yn gweithio hefo plentyn ifanc hefo anghenion dysgu ychwanegol. Mae Hannah wedi gweithio yn agos hefo’r rhieni ac asiantaethau allanol i helpu creu cynllun i helpu’r plentyn addasu i'r feithrinfa. Pan fod angen, mi ydyn yn gallu rhoi Hannah yng ngofal unrhyw oedran ac mae hi yn gallu addasu ei ffordd o weithio hefo'r plant.”
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda’r Urdd?
Dechreuais y cymhwyster Lefel 2 Gofal Plant i ddysgu sgiliau newydd fel y gallaf ddatblygu fy ngallu ar gyfer y dyfodol. Trwy ei gwblhau wrth weithio gallaf gael profiadau ymarferol gyda chyngor a gwybodaeth gan fy asesydd a bod mewn swydd rwy'n ei fwynhau.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?
Rwyf wrth fy modd bod pob diwrnod yn wahanol. Mae’n fy ngalluogi i fod yn greadigol gyda’r plant drwy wneud crefft a chwarae a bod yn rhan o’u dysgu a’u datblygiad. Drwy gwblhau’r brentisiaeth, mae'n gwneud i mi feddwl mwy am bopeth rydw i'n ei wneud hefo’r plant a hefyd yr hyn y gallaf ei gyflawni yn fy nyfodol a'r hyn y gallaf ei wneud i wella fy ngwaith a sgiliau.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Mae gallu ei wneud yn ddwyieithog yn fy ngalluogi i ddatblygu fy ngwaith ysgrifenedig Cymraeg.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Rwy'n mwynhau bod yn yr awyr agored, yn enwedig ger llynnoedd a choedwigoedd gyda ffrindiau sydd wedi datblygu diddordeb mawr mewn ffotograffiaeth.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae wedi rhoi hyder i mi yn y ffordd rydw i'n gweithio. Rwyf wedi dysgu llawer am yr hyn sydd ei angen i ddeall meddwl plentyn a'r hyn sydd ei angen i fod y person sydd ei angen arnynt i'w helpu i dyfu, dysgu a theimlo'n ddiogel.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Rwy’n gobeithio datblygu fy nysgu drwy barhau â’m hyfforddiant ac un diwrnod byddwn wrth fy modd yn trio rôl 1 wrth 1.
Disgrifia yn fras dy dyletswyddau.
Mae fy nyletswyddau'n cynnwys diogelu, lles a sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu clywed. Rwy’n caniatáu iddynt deimlo'n hyderus yn eu dysgu a'u datblygiad a'u cefnogi yn eu cyflawniadau.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth mewn 3 gair!
Hwyl, dysgu, twf
Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle a roddwyd i mi. Rwy’n cael ennill cymhwyster, dysgu a thyfu trwy waith.