Mae Catrina yn dod o bentref o’r enw Cadoxton yng Nghastell-Nedd Port Talbot, ac fe wnaeth fynychu Ysgol Gyfun Ystalyfera. Dyma ychydig o’i stori!
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?
Fe wnes i benderfynu ymgeisio i wneud y prentisiaeth yma ar ôl mwynhau gwirfoddoli gydag adran Chwaraeon yr Urdd am 4 mlynedd pan oeddwn yn yr ysgol. Rwy hefyd yn hoff iawn o hyfforddi chwaraeon a gweld plant yn datblygu ei sgiliau a’i hyder.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?
Rydw i’n mwynhau llawer o elfennau’r prentisiaeth ond y peth rwy’n mwynhau fwyaf yw hyfforddi plant a’u gweld nhw’n datblygu wrth iddyn nhw fynychu clybiau, campiau a chystadlaethau. Rwy’n ymfalchïo wrth weld y plant yn magu hyder, ac yn mwynhau ei hun wrth fod yn rhan o glwb yr Urdd.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Rwy’n teimlo mor lwcus i fod yn rhan o’r Urdd ac i fedru gweithio a gwneud fy mhrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n fy ngalluogi i i wella fy Nghymraeg, ond yn fwy na hyn, rwy’n caru fy mod yn medru cynorthwyo gyda Chymraeg y plant, eu dylanwadu nhw a bod yn rhyw fath o fodel iddynt.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Tu allan i gwaith rydw i’n hoff iawn o chwaraeon a fod yn rhan o glwb athletau lleol a gwario amser gyda teulu a ffrindiau.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae’r prentisiaeth wedi helpu fi datblygu llawer yn enwedig gyda fy hyder. Mae hefyd wedi helpu gyda sefyllfaoedd byddai fel arfer wedi osgoi ac wedi helpu fi i fod yn fwy gyfrifol gyda gwaith ond hefyd mewn sefyllfaoedd tu fas o waith.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
Ar ôl cwblhau’r prentisiaeth gobeithiaf fod i’n gallu mynd ymlaen i gael swydd gyda’r Urdd a chario mlaen hyfforddi i ddatblygu sgiliau fy hun yn ogystal â sgiliau’r plant.
Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.
Fel prentis, dyletswyddau fi yw i redeg amrywiaeth o glybiau o amgylch Castell-Nedd Port Talbot, cynllunio ar gyfer clybiau a hefyd i gwblhau gwaith NVQ.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Gwobrwyol , profiadol , gwych!