Sgwrs gyda Rhys Jones
Prentis y Mis, Tachwedd 2022
Bachgen o Gaerffili yw Rhys Jones a wnaeth fynychu Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin ac yna Ysgol Uwchradd St Martins, ac sydd nawr yn cwblhau prentisiaeth Arwain Gweithgareddau Lefel 2 yng Nghanolfan Hamdden GLL yng Nghaerdydd.
Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?
Roeddwn i o hyd yn mwynhau gwneud gwaith ymarferol corfforol, ac roeddwn yn gweld y brentisiaeth yma i fod y rhaglen berffaith i mi.
Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?
Y prif beth dwi’n ei fwynhau am fy swydd yw gweithio gyda chyd-weithwyr a dysgu mwy gan gynyddu fy hyder trwy fy swydd.
Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?
Gan fy mod yn byw yng Nghymru, credaf ei fod yn dda ein bod yn gallu dysgu’r iaith a gwella ein sgiliau iaith pob dydd.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Dwi’n mwynhau mynd i’r gampfa, y sinema, mynd allan gyda ffrindiau a threulio amser yn yr awyr agored.
Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?
Mae’r brentisiaeth yma wedi llwyddo i adeiladu fy hyder, sgiliau cyfathrebu, a deall fy rôl yn fy swydd. Ar y cyfan, dwi’n well o ganlyniad o wneud y brentisiaeth.
Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?
I barhau gyda fy llwybr gyrfaol o rywbeth corfforol, megis gweithio mewn campfa neu ddod yn hyfforddwr personol.
Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.
Fy nyletswyddau i yw - achubwr bywyd yn y pwll, cadw’r adnoddau yn lan a bod yn broffesiynol.
Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!
Sialens, Cymwynasgar, Cyffrous!